Ewch i’r prif gynnwys

Deall Tsieina’n Well: Y Sidydd Tsieineaidd a Llythrennau Tsieinëeg

Dydd Llun, 18 Mawrth 2024
Calendar 12:00-13:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Image of Chinese Characters and Chinese Zodiac signs
Croeso i bawb

Mae ein sgyrsiau Deall Tsieina’n Well, a arweinir gan diwtoriaid o Sefydliad Confucius Caerdydd, yn gyfle gwych i ddysgu mwy am ddiwylliant ac iaith Tsieineaidd.

Y Sidydd Tsieineaidd

Cyflwyno hanes y Sidydd Tsieineaidd a deuddeg anifail y Sidydd Tsieineaidd. Bydd cyfle i chi ddod o hyd i'ch arwydd chi yn y Sidydd Tsieineaidd.

Llythrennau Tsieinëeg

Edrych ar ddirgelion llythrennau Tsieinëeg. Byddwn ni'n cyflwyno tarddiad ac esblygiad llythrennau Tsieinëeg a gemau difyr am y llythrennau, a bydd cyfle i ymarfer ysgrifennu llythrennau Tsieinëeg.

Trefn y digwyddiad

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal mewn person.

Cyfieithu ar y pryd

Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg yn ystod y sesiwn holi ac ateb. Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, cysylltwch â mlang-events@caerdydd.ac.uk erbyn dydd Iau 14 Mawrth i wneud ymofyniad cyfieithu ar y pryd.

Nodwch fod 10% neu mwy o’r rhai sy’n bwriadu dod yn angen i ofyn am y ddarpariaeth hon er mwyn iddo gael ei ffynonellau i fod yn bresennol a bydd yn amodol ar argaeledd adnoddau.

Cofrestru

Cofrestrwch am y digwyddiad.

Mae'n ddrwg gennym nad yw'r dudalen gofrestru gyfan ar gael yn Gymraeg.  Yn anffodus nid yw'r platfform yr ydym yn ei ddefnyddio'n cynnig y gwasanaeth hwn.

Asesiad risg

Cynhaliwyd asesiad risg ar gyfer y digwyddiad hwn. Os hoffech weld copi o'r asesiad risg, e-bostiwch mlang-events@caerdydd.ac.uk

Hysbysiad Diogelu Data

Pan fyddwch yn cofrestru, cedwir eich data yn unol â’n Hysbysiad Diogelu Data. Byddwn yn prosesu’r data personol a ddarparwyd gennych yn unol â rheoliadau diogelu data.

Gweld Deall Tsieina’n Well: Y Sidydd Tsieineaidd a Llythrennau Tsieinëeg ar Google Maps
Ystafell 0.45
John Percival Building
Rhodfa Colum
Caerdydd
CF10 3EU

Rhannwch y digwyddiad hwn