Ewch i’r prif gynnwys

Sesiwn Hysbysu Dros Frecwast Ysgol Busnes Caerdydd: Recriwtio Talent Rhyngwladol

Dydd Gwener, 3 Mawrth 2023
Calendar 08:30-09:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Audience

Yn ôl yr ONS, ar hyn o bryd mae 1,187,000 o swyddi gwag yn y DU. Diolch i Brexit a Covid 19, mae sefydliadau yn gweld bod angen iddynt feddwl yn wahanol ac yn greadigol i ddenu talent…

Ydych chi'n edrych i ehangu neu arallgyfeirio eich gweithlu? Neu oes prinder talent yn eich gweithlu? Os felly, ydych chi wedi ystyried llogi talent rhyngwladol? Mae gan Brifysgol Caerdydd gyfoeth o fyfyrwyr rhyngwladol sy'n awyddus i adeiladu eu profiad a sicrhau cyflogaeth, a byddent yn ychwanegu cymaint o werth trwy weithio i chi.

Bydd gwasanaeth gyrfaoedd a chyflogadwyedd Prifysgol Caerdydd, Student Futures, a gefnogir gan Newfields Law, yn rhannu buddion llogi talent rhyngwladol, arddangos cyn-fyfyrwyr, a siarad am y broses fisa, gan gynnwys y llwybr Graddedig hygyrch. Mae Student Futures yn gobeithio codi eich ymwybyddiaeth o gynnig yr Ysgol Busnes i gyflogwyr fel interniaethau, prosiectau mewnwelediad byr a chyfleoedd i raddedigion a bydd Newfields Law yno i’ch helpu i lywio’r broses o safbwynt gweinyddol, gan drafod fisas a’r pethau sydd angen i chi fod yn ymwybodol o. Yn hollbwysig, gellir goresgyn yr holl ffactorau hyn a gallwn weithio gyda chi i gyflawni pethau gwych i'ch sefydliad.

Gweld Sesiwn Hysbysu Dros Frecwast Ysgol Busnes Caerdydd: Recriwtio Talent Rhyngwladol ar Google Maps
Executive Education Suite
Cardiff Business School Postgraduate Teaching Centre
Colum Road
Cathays
Caerdydd
CF10 3EU

Rhannwch y digwyddiad hwn


Digwyddiadau yn y gyfres hon

Executive Education