Ewch i’r prif gynnwys

Sut mae symud ymlaen o’r gorffennol anodd? Myfyrdodau ynghylch y berthynas rhwng gwlad Pwyl ac Wcráin yn yr 20fedganrif a heddiw

Dydd Iau, 9 Mehefin 2022
Calendar 17:00-18:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Heritage & History research theme stock image

Gweminar gyda'r siaradwr gwadd, Dr Paweł Duber (Prifysgol Nottingham Trent), sy’n cael ei gynnal ar y cyd gan, yn gyntaf, o dan euthema ymchwil Hanes a Threftadaeth- yr Ysgol Ieithoedd Modern, a chan Grŵp Ymchwil Canol a Dwyrain Ewrop ym Mhrifysgol Caerdydd.

Crynodeb
Bydd y ddarlith hon yn datgelu dau ddimensiwn y berthynas rhwng Gwlad Pwyl ac Wcráin. Mae'r dimensiwn cyntaf yn trin a thrafod hanes drasig y ddwy wlad a'r gwrthdaro fu rhyngddynt yn ystod yr 20fed ganrif. Ond mae'r ail ddimensiwn yn seiliedig ar y cydweithio rhwng y ddwy wlad hyn sy'n byw gyda’r perygl mae Rwsia a'i huchelgeisiau imperialaidd yn eu creu yn awr. Mae'r ffaith hon yn esbonio cefnogaeth gwleidyddion elitaidd Gwlad Pwyl i’r wladwriaeth Wcrainaidd annibynnol sy'n gwahanu Gwlad Pwyl oddi wrth Rwsia. Mae gwreiddiau'r gefnogaeth hon yn dyddio'n ôl i ddechrau'r 20fed ganrif. Felly, bu i’r ail ddimensiwn hwn, sy'n seiliedig ar gydweithio, gydfodoli â'r un cyntaf, ond mae wedi bod yn gryfach fyth ers cwymp yr Undeb Sofietaidd ym 1991. A nawr, ers 24 Chwefror, mae’n bwysicach nag erioed. Mae hyn yn dangos, y gall y ddwy genedl, o dan amodau penodol, symud ymlaen o’r gorffennol anodd, a hyd yn oed y gorffennol trasig.

Bywgraffiad
Mae Dr Paweł Duber yn awdur ar nifer o gyhoeddiadau (gan gynnwys dau fonograff) ar awdurdodyddiaeth Gwlad Pwyl yn y cyfnod rhwng y ddau ryfel byd, hanes diplomyddiaeth, a gwleidyddiaeth y cof. Mae wedi gweithio mewn llawer o sefydliadau diwylliannol ac academaidd, gan gynnwys Prifysgol Warsaw a Phrifysgol Fribourg yn y Swistir. Ar hyn o bryd mae'n ymchwilydd ôl-ddoethurol ar y prosiect “Prydain ôl-Sosialaidd? Y Cof, Cynrychiolaeth a Hunaniaeth Wleidyddol ymhlith mudwyr o'r Almaen a Gwlad Pwyl i'r DU” ym Mhrifysgol Nottingham Trent. Mae hefyd yn gorffen bywgraffiad o'r hanesydd a'r diplomydd Tytus Komarnicki, a oedd yn gynrychiolydd tymor hir dros Wlad Pwyl yng Nghynghrair y Cenhedloedd.

Trefn y Digwyddiad & recordio
Bydd  y digwyddiad yn cael ei gynnal ar-lein fel gweminar Zoom a byddwn yn recordio’r gweminar er mwyn ei gyhoeddi ar ôl y digwyddiad.

Cyfieithu ar y pryd
Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg yn ystod y sesiwn holi ac ateb. Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, cysylltwch â mlang-events@caerdydd.ac.uk erbyn dydd Iau 26 Mai i wneud ymofyniad cyfieithu ar y pryd. Nodwch fod 10% neu mwy o’r rhai sy’n bwriadu dod yn angen i ofyn am y ddarpariaeth hon er mwyn iddo gael ei ffynonellau i fod yn bresennol a bydd yn amodol ar argaeledd adnoddau.

Cofrestru
Mae'n ddrwg gennym nad yw'r dudalen gofrestru gyfan ar gael yn Gymraeg.  Yn anffodus nid yw'r platfform yr ydym yn ei ddefnyddio'n cynnig y gwasanaeth hwn.

Hysbysiad Diogelu Data
Pan fyddwch yn cofrestru, cedwir eich data yn unol â’n Hysbysiad Diogelu Data. Byddwn yn prosesu’r data personol a ddarparwyd gennych yn unol â rheoliadau diogelu data.

Rhannwch y digwyddiad hwn