Ewch i’r prif gynnwys

Hanner Marathon Caerdydd Hydref 2022

Dydd Sul, 2 October 2022
Calendar 10:00-15:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

TeamCardiff runners at the March 2022 Cardiff Half Marathon

Rhedwch Hanner Marathon Caerdydd yn rhan o #TeamCardiff a chodi arian ar gyfer ymchwil Prifysgol Caerdydd.

Ar 2 Hydref 2022, bydd Hanner Marathon Caerdydd yn dychwelyd i strydoedd y brifddinas, lle bydd miloedd o bobl yn rhedeg 13.1 milltir ar un o gyrsiau mwyaf gwastad y DU. 

Ewch ati i ymuno â #TeamCardiff – tîm codi arian Prifysgol Caerdydd – a dewis codi arian ar gyfer naill ai ymchwil niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl neu ymchwil canser y Brifysgol. Drwy ymuno â #TeamCardiff, byddwch yn helpu’r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr i wneud darganfyddiadau sy'n newid bywydau’n gynt er mwyn gwella sut mae amrywiaeth eang o gyflyrau’n cael eu hatal, eu diagnosio a’u trin.

Gwnewch gais am le elusennol ar #TeamCardiff

Mae rhedeg Hanner Marathon Caerdydd yn rhan o #TeamCardiff yn rhad ac am ddim! Y cyfan sy'n rhaid i chi ei wneud yw codi isafswm o £250 ar gyfer y maes ymchwil o’ch dewis. Gwnewch gais am le elusennol rhad ac am ddim.

Ymunwch â #TeamCardiff â'ch lle eich hun

Os oes gennych eich lle eich hun yn barod, neu os byddai'n well gennych osod eich targed codi arian eich hun, byddem wrth ein bodd petaech yn ymuno â #TeamCardiff! Byddwch yn cael yr un gefnogaeth â'n rhedwyr â lle elusennol (gan gynnwys top rhedeg #TeamCardiff rhad ac am ddim), heblaw’r targed codi arian. Rhowch wybod i ni os hoffech ymuno â #TeamCardiff â’ch lle eich hun.

Bydd 100% o'r arian a godwyd gennych yn mynd yn uniongyrchol i'r maes ymchwil o’ch dewis yn y Brifysgol.

Tu allan i Gastell Caerdydd
Castle Street
Caerdydd
Caerdydd
CF10 3RB

Rhannwch y digwyddiad hwn