Ewch i’r prif gynnwys

Sut i fod yn bensaer gwych: Pam mae cynwysoldeb yn bwysig

Dydd Mercher, 9 Chwefror 2022
Calendar 13:00-14:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

The Welsh School of Architecture

Cyfarwyddwr Cynwysoldeb Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain yw Marsha. Mae’n ymarferydd cynhwysiant strategol ac yn gyn-newyddiadurwraig y BBC. Pensaer yn Stride Treglown yw Marié a raddiodd o Ysgol Pensaernïaeth Cymru. Bydd Marsha a Marié ill dwy yn mynd ati i bryfocio yn y sesiwn. Wedyn, bydd sgwrs am sut i sicrhau bod newidiadau cynhwysol yn digwydd ym myd pensaernïaeth, yn ogystal â thrafod Deallusrwydd Diwylliannol, a’r broses o ymgysylltu a mentora.

Mhairi McVicar, Cyfarwyddwr Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru ac Arweinydd Academaidd y Porth Cymunedol fydd yn cadeirio’r sgwrs.

Er mwyn dod i’r digwyddiad wyneb yn wyneb hwn yn Adeilad Bute (bydd y niferoedd yn gyfyngedig) cofrestrwch ar ddolen Eventbrite. Mae’n rhaid gwisgo mwgwd wyneb i fod yn bresennol oni bai eich bod wedi eich eithrio, a dylech chi sefyll prawf Covid-19 cyn dod.

I ymuno â'r digwyddiad ar-lein, cofrestrwch ar ddolen Eventbrite.

Bydd y digwyddiad yn cael ei recordio.

Cefnogir y sgwrs hon gan y gyfres Siarad am Wrth-Hiliaeth a gynhelir gan Brifysgol Caerdydd. I weld recordiadau’r digwyddiadau cynharach, ewch i https://www.cardiff.ac.uk/cy/events/series/talking-anti-racism

Gweld Sut i fod yn bensaer gwych: Pam mae cynwysoldeb yn bwysig ar Google Maps
Bute building Exhibition Hall
Bute Building
Rhodfa'r Brenin Edward VII
Caerdydd
CF10 3NB

Rhannwch y digwyddiad hwn


Digwyddiadau yn y gyfres hon

Talking Anti-Racism