Straeon o’r creigresi: Effaith newid amgylcheddol ar gwrelau
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Mae cyfres gweminarau GeoTalks yn addas i sawl cynulleidfa megis y cyhoedd, disgyblion yr ysgolion uwchradd a phroffesiynolion.
Seminar
Mae cwrelau, yr anifeiliaid bychain sy’n adeiladu rhai o strwythurau byw mwyaf y Ddaear, o dan fygythiad cynhesu byd-eang, gormod o asid yn y cefnforoedd, llygredd dŵr a gorbysgota. Yn y weminar hon, byddwn ni’n plymio i’r greigres i weld sut mae gwyddonwyr cwrelau yn hel cliwiau amgylcheddol o hen gwrelau a pham mae’r wybodaeth honno’n bwysig o ran deall sut y bydd creigresi cwrel yn ymateb i newid.
Siaradwr
Ana Samperiz Vizcaino