Ewch i’r prif gynnwys

42ain Gynhadledd y Gymdeithas Astudiaethau Iberaidd Cyfoes

Calendar Dydd Mercher 1 Medi 2021, 10:00-Dydd Gwener 3 Medi 2021, 15:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Association of Contemporary Iberian Studies Conference logo

Eleni, cynhelir ail gynhadledd ar ddeugain y Gymdeithas Astudiaethau Iberaidd Cyfoes (ACIS) gan yr Ysgol Ieithoedd Modern ym Mhrifysgol Caerdydd, a bydd yn cael ei chynnal yn rhithwir er mwyn sicrhau diogelwch a’i gwneud hi’n haws i bob cynadleddwr a siaradwr gyfrannu. 

Mae'r Gymdeithas yn cynnal cynhadledd amlddisgyblaethol ryngwladol ddechrau mis Medi bob blwyddyn. Mae'r gynhadledd yn teithio rhwng prifysgolion yn Sbaen, Portiwgal a'r Deyrnas Unedig, ac mae papurau a phaneli yn canolbwyntio ar faterion cymdeithasol-ddiwylliannol, economaidd a gwleidyddol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, gyda phwyslais penodol ar y Penrhyn Iberaidd a'i gysylltiadau â'r bydoedd ehangach sy’n siarad Portiwgaleg a Sbaeneg. Mae'r awyrgylch yn un cadarnhaol a chefnogol ac mae croeso cynnes i academyddion profiadol, academyddion ar ddechrau eu gyrfa ac ôl-raddedigion.

Bydd y gynhadledd eleni yn parhau fel digwyddiad tridiau, ac fel arfer, bydd yn cynnwys detholiad o baneli a phrif anerchiadau.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y Gymdeithas ar wefan ACIS.

Themâu
Y meysydd thematig eleni ar gyfer papurau a phaneli yw Iberia: Cof, Trawsnewidiadau a'r Trawswladol.

Prif siaradwyr
•    Dra. Teresa Abelló a Dra. M. Lourdes Prades (Prifysgol Barcelona)
•    Yr Athro Parvati Nair (Queen Mary, Prifysgol Llundain)
•    Yr Athro António Costa Pinto (Prifysgol Lisbon)

Trefnwyr cynnal
•    Dr Siân Edwards, Uwch-ddarlithydd mewn Astudiaethau Sbaenaidd a Chyfarwyddwr Rhaglen Astudiaethau Sbaeneg, Portiwgaleg ac America Ladin (Ysgol Ieithoedd Modern, Prifysgol Caerdydd)
•    Eleri Davies, Swyddog Digwyddiadau a Chyfathrebu Mewnol (Ysgol Ieithoedd Modern, Prifysgol Caerdydd)
•    Gyda chefnogaeth myfyrwyr ôl-raddedig Rachel Beaney a Joe Healey (Ysgol Ieithoedd Modern, Prifysgol Caerdydd).

Cynullydd y rhaglen
•    Dr Susana Roch Relvas (Universidade Católica Portuguesa).

Pwyllgor Gweithredol ACIS
Mae rhestr o aelodau Pwyllgor Gweithredol ACIS ar gael.

Rhaglen a Llyfr chrynodebau
Bydd rhaglen y gynhadledd a’r llyfr crynodebau ar gael yn fuan.

Platfform rhithwir
Am y tro cyntaf yn hanes cynhadledd ACIS, cynhelir y digwyddiad eleni yn gyfan gwbl ar-lein trwy Zoom .

Fformat

Bydd sesiynau Zoom unigol yn cael eu trefnu ar gyfer pob prif anerchiad, yn ogystal â phob panel. Bydd pob sesiwn yn dechrau gyda chyflwyniad byw gan y cadeirydd ar gyfer y prif siaradwr/siaradwyr neu banelwyr. Yna bydd cyflwyniadau wedi'u recordio ymlaen llaw yn cael eu chwarae a sesiwn holi ac ateb byw. Bydd y tair elfen yn digwydd yn yr un sesiwn Zoom mewn amser real.

Bydd y recordiadau ar gael i gynrychiolwyr eu gwylio trwy'r sianel YouTube am 12 mis ar ôl y gynhadledd.

Cofrestru
Mae cynhadledd eleni yn rhad ac am ddim. Sicrhewch eich bod yn cofrestru i fod yno drwy glicio ar y botwm 'Cofrestrwch' ar ochr chwith uchaf y dudalen hon, fel y gallwch gael yr holl wybodaeth berthnasol a’r cyfarwyddiadau a dolenni i ymuno maes o law.

Rhannwch y digwyddiad hwn