Ewch i’r prif gynnwys

Argyfwng Gwleidyddol: (Gwrth) Cudd-wybodaeth a Chyfieithu

Dydd Iau, 18 Chwefror 2021
Calendar 13:00-15:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Transnational Cultural & Visual Studies stock image

Gweminar gyda Dr Sergey Tyulenev (Prifysgol Durham) a drefnir gan thema ymchwil Astudiaethau Diwylliannol a Gweledol Trawswladol dan thema ymchwil Ysgol-gyfan yr Ysgol Ieithoedd Modern, Argyfwng a Diwylliant.

Darganfyddwch fwy am themâu ymchwil yr Ysgol Iaith Fodern.

Crynodeb
Disgrifiodd James Angleton, pennaeth gwrth gudd-wybodaeth gyda'r CIA, waith gwrth gudd-wybodaeth fel crwydro 'mewn anialwch o ddrychau'. Gan ddefnyddio delwedd o gerdd T.S. Eliot ‘Gerontion’, roedd Angleton yn ceisio mynegi'r heriau a geir wrth weithredu mewn byd lle'r oedd cyfrinachedd, twyll a brad yn teyrnasu, a lle na fyddai neb fyth yn siŵr pa wirionedd i'w gredu. Mae hyn yn arbennig o wir wrth i gysylltiadau rhyngwladol brofi argyfyngau, fel dechrau'r Rhyfel Oer yn yr ugeinfed ganrif.

Mae cyfieithu’n chwarae rhan weithredol mewn gweithgareddau gwrth gudd-wybodaeth, o ystyried eu bod yn cael eu cynnal yn amlach na pheidio ar draws ffiniau ieithyddol a diwylliannol. Bydd y siaradwr yn ystyried cyfieithu ar adeg dyngedfennol yn hanes y byd - dechrau cyfnod y Rhyfel Oer. Bydd yn edrych ar gyfieithu fel y'i defnyddir mewn gwrth gudd-wybodaeth, gan gyfeirio'n benodol at yr hyn a elwir yn brosiect Venona (1943-80) - rhaglen yr UD o ddadgryptio gohebiaeth ysbïo Sofietaidd o'r Ail Ryfel Byd ymlaen. Bydd yn ystyried natur benodol gweithrediadau cyfieithu o fewn fframwaith (gwrth) ysbïo fel ymarfer sy’n delio â'r math o ddogfennau y byddid yn eu hystyried yn 'anarferol' a dweud y lleiaf, o'u cymharu â'r math o ddogfennau y byddai cyfieithwyr yn ymdrin â nhw yn 'agored'. Bydd hefyd yn cyfeirio at ôl-effiethiau moesegol gweithredu fel cyfieithydd nad yw'n cyfrannu at gydweithio rhyngwladol ond at elyniaeth ryngwladol.

Bywgraffiad
Mae Dr Sergey Tyulenev yn Athro Cysylltiol mewn Astudiaethau Cyfieithu a Chyfarwyddwr yr MA mewn Astudiaethau Cyfieithu yn Ysgol Ieithoedd Modern a Diwylliannau Prifysgol Durham, yn athro gwadd ym Mhrifysgol Nankai, Tianjin, a Phrifysgol Astudiaethau Tramor Guangdong, Guangzhou, Tsieina, ac yn aelod o bwyllgor ymgynghorol Astudiaethau Cyfieithu yn yr Ysgol Economeg Uwch, Moscow, Rwsia. Cynhaliodd ymchwil ôl-ddoethurol ym Mhrifysgol Caergrawnt (y DU) ac ym Mhrifysgol y Wladwriaeth Rydd (Bloemfontein, De Affrica).

Mae wedi dysgu mewn nifer o brifysgolion ledled y byd, yn eu plith: Prifysgol Moscow, Prifysgol Caergrawnt, Prifysgol McGill. Mae ei ddiddordebau ysgolheigaidd yn cynnwys theori cyfieithu, hanes cyfieithu yn Rwsia, cymdeithaseg cyfieithu yn ogystal ag epistemoleg ymchwil cyfieithu. Mae'n Olygydd cyfres Routledge Introductions to Translation and Interpreting. Mae ei brif gyhoeddiadau yn cynnwys y monograffau canlynol: Theory of Translation (Moscow: Gardariki, 2004; sydd wrthi'n cael ei gyfieithu i Tsieinëeg i Wasg Prifysgol Wuhan); Applying Luhmann to Translation Studies (Efrog Newydd a Llundain: Routledge, 2011); Translation and the Westernization of Eighteenth-Century Russia (Berlin: Frank & Timme, 2012); Translation and Society: An Introduction (Llundain ac Efrog Newydd: Routledge, 2014); Translation in the Public Sphere (Palgrave Macmillan, 2018). Ceir rhagor o wybodaeth ar wefan Dr Sergey Tyulenev.

Cyfieithu ar y pryd
Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg yn ystod y sesiwn holi ac ateb. Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, cysylltwch â mlang-events@caerdydd.ac.uk erbyn dydd Iau 11 Ionawr i wneud ymofyniad cyfieithu ar y pryd. Nodwch fod 10% neu mwy o’r rhai sy’n bwriadu dod yn angen i ofyn am y ddarpariaeth hon er mwyn iddo gael ei ffynonellau i fod yn bresennol a bydd yn amodol ar argaeledd adnoddau.

Cofrestru
Mae'n ddrwg gennym nad yw'r dudalen gofrestru gyfan ar gael yn Gymraeg.  Yn anffodus nid yw'r platfform yr ydym yn ei ddefnyddio'n cynnig y gwasanaeth hwn.

Cofnodi Digwyddiad
Sylwch y bydd y digwyddiad hwn yn cael ei recordio.

Rhannwch y digwyddiad hwn