Ewch i’r prif gynnwys

Cynhwysiad ieithyddol mewn cyrff anllywodraethol rhyngwladol: Heriau amlieithog a chyfieithwyr anffurfiol

Dydd Mercher, 10 Chwefror 2021
Calendar 13:00-15:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Transnational Cultural & Visual Studies stock image

Gweminar gyda Dr Wine Tesseur (Prifysgol Dinas Dulyn), a drefnir gan thema ymchwil Astudiaethau Traws-wladol, Diwylliannol a Gweledol yr Ysgol Ieithoedd Modern.

Darganfyddwch fwy am themâu ymchwil yr Ysgol Iaith Fodern.

Crynodeb
Mae cyrff anllywodraethol rhyngwladol (INGOs) yn rhoi gwerth ar egwyddorion tegwch a chynhwysiant yn eu gwaith gyda chymunedau lleol yn ogystal ag yn fewnol yn eu sefydliadau. Dangosir hyn drwy’r Safon Ddyngarol Graidd, sy'n ceisio gwella ansawdd ac effeithiolrwydd cymorth ac sy'n cynnwys y canlynol fel un o'i hegwyddorion: 'Cefnogir staff i wneud eu gwaith yn effeithiol a chânt eu trin yn deg ac yn gyfiawn'.  Bydd y sgwrs yn tynnu ar waith maes ethnograffig a gynhaliwyd ym mhencadlys INGO sy'n defnyddio'r Saesneg yn bennaf fel iaith gyffredin ddiofyn i ddadlau dau bwynt allweddol. Yn gyntaf, byddaf yn dadlau bod amrywiaeth iaith ymhlith staff yn gosod heriau i INGOs sy'n ceisio sicrhau tegwch ymhlith staff, yn enwedig o ran mynediad at wybodaeth, hyfforddiant a datblygiad gyrfa. Yn ail, mae'r data sydd gennyf yn dangos bod rhai gweithwyr cymorth amlieithog yn gwneud gwaith allweddol i sicrhau cyfathrebu llyfn rhwng pencadlysoedd a swyddfeydd gwledydd trwy dreulio cryn dipyn o amser ar gyfieithu dogfennau a chyfieithu ar y pryd i gydweithwyr, er nad yw hyn yn rhan o'u disgrifiadau swydd. Bydd y sgwrs yn ystyried sut mae'r cyfieithwyr a'r cyfieithwyr ar y pryd anffurfiol hyn yn gweld eu rôl. I gloi, byddaf yn dadlau y dylai INGOs gydnabod a chefnogi'r gwaith iaith cudd hwn yn well, gan ei fod yn gwneud cyfraniad pwysig i'w gwaith a'u gwerthoedd.

Bywgraffiad
Mae Dr Wine Tesseur yn Gymrawd ôl-ddoethurol Marie Skłodowska-Curie a Chyngor Ymchwil Iwerddon ym Mhrifysgol Dinas Dulyn. Mae'n ddeiliad cymrodoriaeth CAROLINE yn gweithio gyda’r NGO GOAL ar ei phrosiect 'Translation as Empowerment: Translation as a contributor to human rights in the Global South'. Yn flaenorol, bu'n ymchwilydd ôl-ddoethurol ym Mhrifysgol Reading ar y prosiect a ariannwyd gan AHRC 'The Listening Zones of NGOs: Languages and cultural knowledge in development programmes’ (2015-18) a arweiniwyd gan yr Athro Hilary Footitt (Prifysgol Reading). Roedd ei gwaith doethurol yn ymdrin â pholisïau ac arferion cyfieithu Amnest Rhyngwladol (Prifysgol Aston 2015).

Cyfieithu ar y pryd
Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg yn ystod y sesiwn holi ac ateb. Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, cysylltwch â mlang-events@caerdydd.ac.uk erbyn dydd Mercher 3 Chwefror i wneud ymofyniad cyfieithu ar y pryd. Nodwch fod 10% neu mwy o’r rhai sy’n bwriadu dod yn angen i ofyn am y ddarpariaeth hon er mwyn iddo gael ei ffynonellau i fod yn bresennol a bydd yn amodol ar argaeledd adnoddau.

Cofrestru
Mae'n ddrwg gennym nad yw'r dudalen gofrestru gyfan ar gael yn Gymraeg.  Yn anffodus nid yw'r platfform yr ydym yn ei ddefnyddio'n cynnig y gwasanaeth hwn.

Cofnodi Digwyddiad
Sylwch y bydd y digwyddiad hwn yn cael ei recordio.

Rhannwch y digwyddiad hwn