Ewch i’r prif gynnwys

Prifysgol Caerdydd mewn trafodaeth â...

Mae ein cyfres newydd o ddigwyddiadau cyhoeddus fydd yn dod â meddylwyr blaenllaw ynghyd gyda’n harbenigwyr rhagorol yma ym Mhrifysgol Caerdydd i drafod ac amlygu’r materion pwysig y mae ein planed a’i phobl yn eu hwynebu.

Yn ystod ein digwyddiad cyntaf, trafododd Babita Sharma (BA 1998), Cyflwynydd Newyddion y BBC, Awdures a chyn-fyfyriwr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant Caerdydd, ei phrofiad yn gohebu mewn pandemig.

Cynhaliwyd yr ail ddigwyddiad ddydd Mawrth 9 Chwefror ac roedd yn cynnwys Kevin McCloud MBE, darlledwr a Chymrawd Anrhydeddus i Brifysgol Caerdydd (2013),na rannodd ei farn ar sut y gallwn gyflawni tai cynaliadwy nawr. Bydd y recordiad o'r digwyddiad hwn ar gael yn fuan.

Cynhaliwyd y trydydd digwyddiad ddydd Mawrth, 16 Mawrth. Roedd yn cynnwys Mabli Jones, Savanna Jones a'r Athro Laura McAllister MBE fu’n trafod Dyfodol y Gymraeg yng nghyd-destun y pandemig.

Cynhaliwyd y pedwerydd digwyddiad ddydd Mercher 19 Mai. Roedd yn cynnwys Jonathon Porritt CBE, fu’n trafod y camau i’w cymryd o ran yr hinsawdd i ail-lunio ein dyfodol dros y degawd nesaf.

Gwyliwch recordiadau o'n digwyddiadau blaenorol.

#TrafodaethauPC

Nid oes digwyddiadau ar y gweill.

I gael y wybodaeth ddiweddaraf

Tanysgrifiwch i‘n ffrwd RSS Gwybodaeth am Fusnes i gael eich hysbysu pan fydd digwyddiadau perthnasol yn cael eu cyhoeddi.

Ffrwd RSS