Ewch i’r prif gynnwys

Recordiadau o ddigwyddiadau'r gorffennol

Gallwch ddal i fyny gyda'r digwyddiadau blaenorol o'n cyfres mewn trafodaeth â... drwy edrych ar recordiadau'r digwyddiad.

Y degawd nesaf: Ailgychwyn dyfodol y ddynoliaeth – Prifysgol Caerdydd mewn trafodaeth â ... Jonathon Porritt CBE

Cafodd pedwerydd digwyddiad ein cyfres 'Sgwrs â ...' ei gynnal ddydd Mercher, 19 Mai 2021. Roedd yn sgwrs â Jonathon Porritt CBE, sef awdur, darlledwr a sylwebydd ar ddatblygu cynaliadwy. Gwnaeth roi ei farn ar y gweithredu sydd ei angen ar y newid yn yr hinsawdd er mwyn ail-lunio ein dyfodol dros y degawd nesaf.

Gwyliwch recordiad o'n pedwerydd digwyddiad, Prifysgol Caerdydd mewn trafodaeth â Jonathon Porritt

Y Gymraeg a’r Pandemig: Ail-lunio’r Dyfodol? Prifysgol Caerdydd mewn trafodaeth â… Mabli Jones, Savanna Jones a Yr Athro Laura McAllister CBE

Cynhaliwyd y trydydd digwyddiad yn ein cyfres 'Mewn trafodaeth â...' ddydd Mawrth, 16 Mawrth 2021. Roedd yn cynnwys Mabli Jones, Savanna Jones a'r Athro Laura McAllister CBE fu’n trafod dyfodol y Gymraeg yng nghyd-destun y pandemig.

Gwyliwch recordiad o’n trydydd digwyddiad, Prifysgol Caerdydd mewn trafodaeth â Mabli, Savanna a Laura

Sut gallwn ni sicrhau tai cynaliadwy nawr? Prifysgol Caerdydd mewn trafodaeth â... Kevin McCloud MBE

Cynhaliwyd ail ddigwyddiad ein cyfres ‘Mewn trafodaeth â...’ ar ddydd Mawrth 9 Chwefror 2021 gyda Kevin McCloud MBE, darlledwr a Chymrawd Anrhydeddus Prifysgol Caerdydd (2013), a roddodd ei farn ar sut y gallwn gyflawni tai cynaliadwy nawr.

Gwyliwch recordiad ein hail ddigwyddiad, Prifysgol Caerdydd mewn trafodaeth â Kevin McCloud

Gohebu yn ystod pandemig: Prifysgol Caerdydd mewn trafodaeth â... Babita Sharma

Cynhaliwyd digwyddiad cyntaf y gyfres 'Mewn trafodaeth â...' ar ddydd Mawrth 15 Rhagfyr 2020 ac roedd yn cynnwys Babita Sharma (BA 1998), Cyflwynydd Newyddion i’r BBC, Awdur a chyn-fyfyrwraig Ysgol Newyddiaduraeth, Cyfryngau a Diwylliant Caerdydd, a drafododd ei phrofiad o adrodd mewn pandemig.

#CUConversations