Ewch i’r prif gynnwys

Prosiectau ymgysylltu peilot

Hoffech chi ymgysylltu gyda chymunedau ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd?

Diolch am eich diddordeb yn y cynllun. Nodwch fod ceisiadau ar gyfer rownd 2 o'r llwybr ariannol Prosiect Ymgysylltu Peilot bellach wedi cau.

Mae Cyfnewid Dinas-Rhanbarth wedi lansio cynllun gwobrywo newydd i gefnogi gwaith ymgysylltu'r Brifysgol yng Nghaerdydd a'r ardal o'i chwmpas (Prifddinas-Ranbarth Caerdydd).

Mae hyd at £5,000 y prosiect ar gael i gefnogi prosiectau peilot sy'n ymgysylltu â chymunedau, awdurdodau neu gwmnïau lleol.

Cynhaliwyd y rownd cyntaf o brosiectau yn ystod 2016. Roedd tair prosiect ar ddeg yn llwyddianus mewn sicrhau cyllid.

Yr her

Rydym yn gwahodd ceisiadau ar gyfer gweithgareddau gan bartneriaid yn y meysydd eang canlynol:

  1. Prosiectau sy'n cryfhau iechyd, lles a/neu gynhwysiad yn ein cymunedau
  2. Prosiectau sy'n gweithio gyda chymunedau a/neu fusnesau i'w helpu i addasu i'r sialensau maent yn eu hwynebu
  3. Prosiectau sy'n archwilio dulliau newydd o drosglwyddo gwasanaethau cyhoeddus
  4. Prosiectau sy'n gweithio i gau'r bylchau mewn cyraeddiadau addysgiadol (yn cynnwys cydweithio gyda sefydliadau sy'n cefnogi'r rhai hynny nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant).
  5. Prosiectau sy'n anelu at gryfhau economïau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.
  6. Prosiectau sy'n gwella ansawdd a'n dealltwriaeth o'n hetifeddiaeth gyffredin.

Ceisiadau

Mae ceisiadau ar gyfer rownd dau o'r llwybr ariannol Prosiect Ymgysylltu Peilot bellach wedi cau.

Cyn i chi wneud cais, darllenwch y canllawiau, meini prawf dethol ac anghenion y prosiectau.

PEP 2 Application Form (Welsh)

Ffurflen gais Prosiectau Ymgysylltu Peilot.

Ymholiadau

Os hoffech chi drafod hwn ymhellach, cysylltwch â: cityregionexchange@caerdydd.ac.uk.