Ewch i’r prif gynnwys

Gweithio gyda busnes

Gall catalysis wneud cyfraniad pwysig i ddatblygiad prosesau cynhyrchu economaidd ac amgylcheddol gynaliadwy.

Mae ein gwaith wedi helpu i ddatblygu a mireinio amrywiaeth o brosesau drwy gyfuniadau o ddulliau confensiynol ac arloesol.

Pam gweithio gyda ni?

Ein profiad

Mae gennym ni hanes llwyddiannus o gydweithio gydag amrywiaeth o fusnesau, o fusnesau newydd i BBaChau lleol a chenedlaethol, a chwmnïau sy'n arwain y byd mewn meysydd fel diwydiannau modurol, tanwydd a chynhyrchu cemegau.

Ein harbenigedd

Mae ein cymuned ymchwil yn cynnwys dros 15 o wyddonwyr ôl-ddoethurol a 50 o fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig, gyda chymorth cyrff cyllido cenedlaethol a rhyngwladol fel yr EPSRC, yr UE, Ymddiriedolaeth Leverhulme, y Gymdeithas Frenhinol a'r NSF.

Ein cyfleusterau

Mae gennym ni gyfleusterau ymchwil rhagorol sy'n cynnwys:

  • Ystod o sbectromedrau NMR cydraniad uchel
  • Sbectromedreg màs cydraniad uchel (LC-MS a GC-MS)
  • Dadansoddi arwyneb (gan gynnwys XPS, STM ac AFM)
  • Microsgopeg electron (SEM gyda dadansoddi micro-elfennol)
  • Diffractomedrau pelydr-X crisial sengl a phowdr
  • Technegau a raglennir â thymheredd: dadansoddi grafimetrig thermol, lleihau/ocsideiddio tymheredd rhaglennog

Ymholiadau

Cysylltwch i ganfod sut y gallai eich cwmni weithio gyda Sefydliad Catalysis Caerdydd.

Yr Athro Stuart Taylor

Yr Athro Stuart Taylor

Athro Cemeg Ffisegol a Dirprwy Gyfarwyddwr y Sefydliad Catalysis Caerdydd

Email
taylorsh@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 4062