Astudiaeth
Mae gan ein hymchwil hanes hir ym maes diddorol Catalysis Heterogenaidd a Gwyddoniaeth Arwynebau.
Rydyn ni’n gweithio i fynd i'r afael â'r heriau mawr sydd bellach yn wynebu gwyddoniaeth, gan gynnwys:
- darparu dŵr glân drwy reoli a dinistrio llygryddion
- amddiffyn yr awyrgylch
- defnyddio adnoddau presennol yn fwy effeithlon
- datblygu tanwyddau carbon isel a sero carbon
- galluogi cynhyrchu bwyd cynaliadwy
Rydyn ni’n gweithio'n agos gyda'r diwydiant i sicrhau y bydd yr atebion catalytig yr ydyn ni’n eu darganfod neu eu dyfeisio yn cael eu mwyhau a’u datblygu i dechnolegau masnachol.
Gwnewch gais am ein cwrs PhD/MPhil
Bydd ein cwrs yn cynnig gwybodaeth ac arbenigedd ar gyfer gyrfa mewn ymchwil a rolau rheoli yn y diwydiant gweithgynhyrchu (e.e. bwyd, colur, petrocemegol ac ati), yn y byd academaidd, yn y sectorau fferyllol a chemegol cain, addysgu ac ymchwil biofeddygol.
Meysydd ymchwil sydd ar gael
- Catalysis aur
- Catalysis amgylcheddol
- Ffotocatalysis
- Biocatalysis
- Electrocatalysis
- Darganfod catalydd
- Cyfosod catalyddion
- Mecanweithiau adweithedd catalytig
- Theori a modelu.
Ymholiadau
Dylid cyfeirio ymholiadau cyffredinol am y cyrsiau uchod at:
Full details of our PhD and MPhil degrees, including how to apply, are available in course finder.