Ewch i’r prif gynnwys

Targedu BCL3 i drin canser y brostad

28 Medi 2023

Sgan sy’n dangos bod canser y prostad wedi lledaenu i'r asgwrn cefn. Llun: Dr Tom Rackley, oncolegydd clinigol ymgynghorol yng Nghanolfan Ganser Felindre
Sgan sy’n dangos bod canser y prostad wedi lledaenu i'r asgwrn cefn. Llun: Dr Tom Rackley, oncolegydd clinigol ymgynghorol yng Nghanolfan Ganser Felindre

Bydd cyllid newydd yn helpu ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd i ddatblygu triniaethau posibl ym maes canser y brostad, a hynny drwy'r cyffur cyntaf i dargedu llwybr signalau celloedd BLC3.

Mae Prostate Cancer UK wedi dyfarnu £0.5 miliwn i ymchwil ar ganser y brostad yn y Sefydliad Ewropeaidd er Ymchwil ar Fôn-gelloedd Canser ym Mhrifysgol Caerdydd, gan ariannu ymchwil ar botensial cyffur newydd i drin therapïau canser yn y dyfodol.

Bydd y grant yn ariannu ymchwil ar dargedu llwybr signalau celloedd BCL3, signal sy'n cael ei ryddhau gan gelloedd canser i sbarduno twf, gan gyfrannu at ddatblygiad canserau. Mae'r ymchwilwyr wedi datblygu'r cyffur cyntaf erioed sy'n targedu'r llwybr hwn a'u nod yw profi effeithiolrwydd y driniaeth bosibl hon ar gyfer canser y brostad yn y dyfodol.

Dyma a ddywedodd Dr Helen Pearson, Uwch-ddarlithydd Canser y Brostad yn Ysgol y Biowyddorau: “Yn achos canser y brostad sy’n ymosodol, mae llwybr signalau BCL3 yn aml yn orweithgar, a bydd hyn yn arwain at ddatblygiad tiwmorau.

“Rydyn ni wedi datblygu’r cyffur newydd hwn i dargedu BCL3 yn therapiwtig, ac mae wedi pasio’r profion diogelwch cychwynnol ac eisoes wedi dangos addewid wrth drin canser y colon a’r rhefr. Yn sgil y cyllid hwn, byddwn ni’n gallu ymchwilio i weld a allai’r cyffur hwn hefyd drin y brostad a deall yn well pryd ac yn achos pa fath o ganser y brostad y gellid ei ddefnyddio.”
Dr Helen Pearson Senior Research Fellow

Mae'r ymchwilwyr yn credu y bydd y prosiect hwn yn rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw i droi eu triniaeth bosibl yn dreial clinigol.

Er mwyn pennu effeithiolrwydd triniaeth y therapi newydd, bydd yr ymchwilwyr yn trin ystod o baratoadau yn y labordy sy'n dynwared canser y brostad ddynol yn agos gan ddefnyddio'r cyffur newydd. Bydd y paratoadau yn y labordy yn efelychu camau gwahanol y clefyd a’r mathau o ganser y brostad, gan gynnwys canser yn y brostad, canser sy'n gwrthsefyll therapi hormonau neu ganser sydd eisoes wedi lledaenu o amgylch y corff.

“Mae canser y brostad sy’n ymosodol yn fwy tebygol o ymledu, mae’n llawer anoddach i’w wella ac yn fwy peryglus i’r dynion y mae’r canser ganddyn nhw. Os bydd yr ymchwil hon yn llwyddiannus, hwyrach y bydd yn arwain at ffordd newydd o drin clefydau ymosodol, gan roi bywydau hirach ac iachach i'r dynion hyn.

“Ein gobaith yw y bydd astudio sut mae’r arwyddion hyn o dwf canser yn gweithio yn arwain at well dealltwriaeth o sut mae canser y prostad yn ymledu, gan ei gwneud hi’n bosibl dod o hyd i driniaethau posibl eraill ar gyfer clefydau ymosodol, a datblygu profion gwaed a allai roi gwybod i feddygon pa ddynion fyddai’n elwa o’r triniaethau hyn,” ychwanegodd yr Athro Richard Clarkson, Cyfarwyddwr y Sefydliad Ewropeaidd er Ymchwil ar Fôn-gelloedd Canser.

Dywedodd Simon Grieveson, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Ymchwil Prostate Cancer UK:“I 1 o bob 5 dyn sy’n cael diagnosis o ganser y prostad yng Nghymru, mae eu canser i’w weld ar gam datblygedig sy’n rhy hwyr i’w wella. Dyna pam ei bod mor bwysig i ni gefnogi ymchwil i driniaethau newydd wedi’u targedu, wedi’u personoli a all gadw’r canser dan reolaeth am gyfnod hirach.

“Dros y tair blynedd diwethaf, mae Prostate Cancer UK wedi buddsoddi mwy na £1.1 miliwn mewn ymchwil flaengar ledled Cymru, i ddod o hyd i ffyrdd newydd o ganfod a thrin y clefyd.

“Rydym yn hynod gyffrous i fod yn cefnogi Dr Pearson, yr Athro Clarkson a’u tîm ym Mhrifysgol Caerdydd. Bydd eu hymchwil nid yn unig yn rhoi mewnwelediad hanfodol i ni o fecanwaith sut mae rhai canserau ymosodol yn lledu, ond bydd hefyd yn profi triniaeth newydd sbon ar gyfer canser y prostad yn y labordy. Gobeithiwn y bydd yr ymchwil hwn yn paratoi’r ffordd tuag at dreialon clinigol yn y dyfodol ar gyfer y driniaeth addawol hon a allai helpu dynion â chanser y prostad i fyw bywydau hirach a gwell.”

Rhannu’r stori hon