Ewch i’r prif gynnwys

Reid Lifting Ltd

Reid Lifting Ltd

Rheoli Systemau Busnes i gefnogi strategaethau gwasanaethu.

Mae ymchwilwyr CAMSAC wedi gweithio gyda Reid Lifting Cyf, sy’n brif ddylunydd ac yn brif weithgynhyrchwr systemau codi cludadwy ar brosiect sydd â’r nod o optimeiddio eu systemau busnes i gynnal eu twf parhaus a hwyluso ffrydiau refeniw newydd sy’n ymgorffori gwasanaethu.

Daeth Reid Lifting yn bartner ag aelodau o gyfadran Ysgol Busnes Caerdydd, Daniel Eyers (Darlithydd mewn Rheoli Systemau Gweithgynhyrchu) a’r Athro Stephen Disney (Cadeirydd Rheoli Gweithrediadau) er mwyn sefydlu Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP) sydd â’r nod o ystyried systemau i gynnal model busnes sy’n ymgorffori gwasanaethu, a’u rhoi ar waith.

Yn aml, gwelir ymgorffori gwasanaethu fel y ffordd y mae cwmnïau’n darparu pecyn integredig o gynhyrchion ynghyd â gwasanaethau, neu’n cynnwys rhyw fath o wasanaeth ychwanegol ar ben y cynhyrchion eu hunain. Drwy ddull ymgorffori gwasanaethu, mae Reid Lifting wedi gallu cefnogi eu cwsmeriaid drwy gynnig gwasanaeth llawn. Yn ei dro, mae hyn wedi arwain at gyfleoedd newydd i’r cwmni.

Mae Reid Lifting, sy’n BBaCh yng Nghas-gwent, yn arweinydd diwydiannol o ran dylunio a gweithgynhyrchu systemau codi ysgafn, cludadwy a diogel.

Mae Reid Lifting o Gas-gwent wedi ennill dwy Wobr y Frenhines am Fentro yn 2013 ac yn cynnig atebion ar gyfer anghenion codi i amrywiaeth o farchnadoedd. Mae ganddynt gwsmeriaid mawr yn y diwydiannau niwclear, dŵr a modurol.

Yn sgîl llwyddiannau fe ddaw cyfleoedd newydd. Pwrpas y Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth hon yw datblygu systemau busnes i gynnal twf parhaus a chreu cyfleoedd newydd sy’n seiliedig ar ymgorffori gwasanaethu i’r cwmni.

Cyswllt PTG

Rhoddwyd y prosiect ar waith gan un Cyswllt PTG amser llawn, Mr Dominic Bevan. Mae gan Dominic radd Baglor (BSc) mewn Rheoli Busnes a Gradd Meistr (MSc) mewn Logisteg a Rheoli Gweithrediadau o Brifysgol Caerdydd. Gan adeiladu ar ei addysg o Brifysgol Caerdydd a'i brofiad o PTG, mae Dominic bellach wedi symud i faes ymgynghori ac yn gweithio ar hyn o bryd i ddarparwr blaenllaw systemau ERP.

Yn Reid Lifting, mae gwaith Dominic yn cael ei oruchwylio ar y cyd gan Nick Battersby (Rheolwr Gyfarwyddwr) a Tony Burid (Peiriannydd Datblygu a Phrosiect).

Rhagor o wybodaeth
Cewch ragor o wybodaeth am y prosiect drwy gysylltu â Dr Daniel Eyers.

Arianwyr
Cafodd y prosiect ei ariannu ar y cyd gan y Bwrdd Strategaeth Technoleg a Llywodraeth Cymru.

Innovate UK logo