Gwobrau Arloesedd ac Effaith
Mae ein Gwobrau Arloesedd ac Effaith yn dathlu ein cydweithrediadau llwyddiannus a chysylltiadau gyda busnes.

Bob blwyddyn rydym yn dathlu ein mentrau cydweithredol drwy ein Gwobrau Arloesedd ac Effaith. Caiff yr enillwyr eu dewis yn ofalus yn seiliedig ar eu harloesedd, effaith a'r gwerth sy'n cael ei ychwanegu drwy gydweithio.
Mae'r sefydliadau partner yn amrywio, o fusnesau mawr i gwmnïau bach, mentrau cymdeithasol, sefydliadau llywodraethol ac elusennau neu gyrff cyhoeddus, sy'n adlewyrchu'r amrywiaeth gwaith a phŵer partneriaethau.
Mae’r pandemig wedi ein harwain at ganslo ein Gwobrau Arloesedd ac Effaith yn 2020. Yn lle hynny rydym ni wedi dewis amlygu chwe phartneriaeth sydd wedi’u cydnabod yn enghreifftiau gwych o arloesedd a chydweithio, a chaiff eu llwyddiant ei arddangos yn ddigidol.
Prosiectau amlwg
Mae'r prosiectau'n amlygu gwaith y Brifysgol i gysylltu, cydweithio a chreu wrth iddi adeiladu campws #CartrefArloesedd i'r dyfodol i hybu llesiant yng Nghymru.
Gan amrywio ar draws y gwyddorau bywyd, busnes, y dyniaethau a llywodraeth ar lefelau rhyngwladol, cenedlaethol a lleol, mae’r partneriaethau hyn yn enghreifftio ein hymrwymiad i weithio gyda phob sector, ynghyd â’r effaith y gallwn ei chyflawni drwy weithio ar y cyd:
Mae #CartrefArloesi yn cysylltu pobl, lleoedd a phartneriaid â'n hymchwil arloesol.