Neuadd Aberdâr
Gyda’i hystafelloedd cyfarfod helaeth eu hoffer a chyfleusterau bwyta cyfforddus, mae gan Neuadd Aberdâr lawer i gynnig ar gyfer pob math o ddigwyddiad.
Adeiladwyd yn 1893 i hyrwyddo addysg menywod yng Nghymru, mae Neuadd Aberdâr wedi’i lleoli’n ganolog, o fewn pellter cerdded i ran fwyaf o Ysgolion Academaidd a thaith gerdded fer o’r ddinas a chanol y ddinas.
Ystafelloedd cyfarfod
Mae gan y Prif Adeilad, a adnabyddir fel yr Hen Neuadd, dair ystafell gyfarfod weithredol. Mae’r holl ystafelloedd wedi’u lleoli ar y llawr gwaelod. Mae’r ystafelloedd yn gyfforddus ac yn draddodiadol o ran arddull ac mae’r cyfleusterau canlynol ar gael:
- amrywiaeth lawn o offer clyweledol (nodwch gall capasiti’r ystafell newid ychydig os oes angen offer clyweledol yn yr ystafell)
- WiFi am ddim
- gellir darparu lluniaeth a bwffe ym mhob ystafell ar gyfer eich anghenion.
Ystafell Isabel Bruce

- lle i hyd at 20 o bobl mewn arddull ystafell fwrdd
- offer AV ar gael
- golygfa 3D o'r ystafell
Ystafell Joan Buckingham

- lle i 24 o bobl mewn arddull theatr a 14 person mewn arddull ystafell fwrdd
- offer AV ar gael
- golygfa 3D o'r ystafell
Ystafell Kathleen Ede

- yn dal hyd at 30 cynrychiolydd mewn arddull theatr a hyd at 20 mewn arddull ystafell fwrdd
- offer AV ar gael
- golygfa 3D o'r ystafell
Bwyta
Mae Neuadd Aberdâr yn cynnig gwasanaeth arlwyo helaeth mewn lleoliad perffaith ar gyfer amrywiaeth o ddigwyddiadau. Mae ein gwasanaethau dyddiol, o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn cynnwys bar a thrwydded lawn gyda phrydiau bar a chiniawau.
Mae Bwyty Aberdâr hefyd ar gael ar gyfer digwyddiadau, ciniawau cynhadledd, gwleddau, derbyniadau priodas a chyflwyniadau. Gellir hefyd gynnal digwyddiadau dros ginio a chiniawau yn ystafell Isabel Bruce a’r ystafell Joan Buckingham.
Cysylltwch
Swyddfa Cynhadledd
Manylion am sut i archebu llety preswyl yn ystod misoedd yr haf.