Ewch i’r prif gynnwys

Arloesedd gweithgynhyrchu

Partneriaeth a helpodd i ddylunio peiriannau torri brics pwrpasol a chyflwyno egwyddorion gweithgynhyrchu Darbodus yn y diwydiant adeiladu.

Gweithgynhyrchu ‘ffitio’

Ffatri Brick Fabrication
Ffatri Brick Fabrication

Mae Brick Fabrication Limited yn cynhyrchu cynhyrchion adeiladu cyn-wneuthuredig ar gyfer diwydiant adeiladu tai’r DU, ac mae wedi bod yn cyflenwi’r adeiladwyr tai blaenllaw am bron i 20 mlynedd.

Dros y blynyddoedd diwethaf mae’r cwmni wedi ehangu’n sylweddol a chyrraedd pwynt o adenillion lleihaol o ran gosodiad y ffatri a’r offer cynhyrchu. Arweiniodd cyfleoedd yn y farchnad a gyflwynwyd gan ddefnydd cynyddol o gynhyrchion cyn-wneuthuredig yn niwydiant adeiladu tai’r DU at yr angen i gynyddu capasiti cynhyrchu er mwyn gallu bodloni’r galw ymhlith cwsmeriaid.

Datblygwyd prosiect KTP gydag Ysgol Peirianneg Caerdydd, yn canolbwyntio ar helpu’r cwmni i gynyddu ei effeithiolrwydd a’i gapasiti cynhyrchu. Ceisiodd hefyd ddylunio a gweithredu system weithgynhyrchu ‘Ffitio’ neu Ddarbodus a fyddai’n cynnwys peiriannau torri awtomataidd gyda gallu dylunio CAD-CAM 3D. Recriwtiodd y tîm Sajith Soman, un o Aelodau Cyswllt KTP, i reoli’r prosiect a sicrhau bod yr arbenigedd academaidd yn cael ei ymsefydlu’n llwyddiannus yn y cwmni.

Rydym yn teimlo’n ffodus i allu denu ymgeisydd o’r fath safon a Sajith. Bydd y blynyddoedd nesaf yn gweld y cwmni yn tyfu'n sylweddol ac mae’r cyflwyniad o Weithgynhyrchu ‘Main’ yn sylfaenol i’r twf.

John White, Prif Weithredwr Brick Fabrication Ltd

Technegau arfer gorau

Arweiniodd y prosiect at ailddylunio gosodiad y ffatri yn unol ag egwyddorion Darbodus, ac mae amser segur y peiriannau wedi gostwng o ganlyniad drwy awtomeiddio dylunio 2D a 3D. Mae’r broses o ddylunio a gweithgynhyrchu un gydran o’r peiriannau yn arbennig wedi cynyddu’r cyfnod cyn gorfod trwsio peiriannau gan 500%.

Mae’r holl staff wedi’u hyfforddi ar egwyddorion Darbodus, gan arwain at newid diwylliant yn y cwmni. Mae Brick Fabrication nawr yn defnyddio technegau gweithgynhyrchu sydd wedi’u hawtomeiddio a thechnegau arfer gorau yn fwy hyderus. At hynny, mae’r prosiect wedi cyfrannu at ymgyrch recriwtio â’r nod o greu 31 o swyddi newydd yng nghyfleuster y cwmni ym Mhont-y-pŵl dros y tair blynedd nesaf.

Datblygodd yr academyddion ddealltwriaeth o gymhlethdodau peiriannu a rhesi cydosod mewn cyd-destun adeiladu tai. Mae deunydd addysgu a phapurau ymchwil wedi’u datblygu o ganlyniad uniongyrchol i’r wybodaeth newydd hon, ynghyd â phrosiectau ymchwil myfyrwyr.

At hynny, mae’r KTP wedi agor drysau i brosiectau ymchwil cydweithredol pellach rhwng y Brifysgol a Brick Fabrication Limited, gydag ail brosiect KTP llwyddiannus gydag Ysgol Busnes Caerdydd.

Mae’r Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth wedi cynnig cyfle unigryw i’r byd academaidd i fod yn rhan o brosiectau gwella systemau gweithgynhyrchu, sydd yn gofyn am gydbwysedd o weithredu offer optimeiddio system ar sail ymchwil ac ystyriaethau ymarferol diwydiannol. O ganlyniad uniongyrchol, mae’r Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth wedi cynhyrchu syniadau ar gyfer prosiectau ymchwil newydd wrth gyfrannu at lansiad cwrs MSc newydd ei greu mewn Arloesedd Gweithgynhyrchu Peirianneg.

Dr Michael Packianather, Ysgol Peirianneg Caerdydd