Ewch i’r prif gynnwys

Kellie Beirne

Kellie Beirne yw Cyfarwyddwr Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, cytundeb rhwng llywodraeth y DU, llywodraeth Cymru a deg arweinydd awdurdod lleol De Ddwyrain Cymru fel rhan o gronfa twf gwerth £1.2bn.

Bu Kellie yn Ddirprwy Brif Swyddog Gweithredol Cyngor Sir Fynwy. Mae Kellie yn aelod o fwrdd Research England, y mwyaf o gyrff cyllido UKRI ac yn aelod o Gyngor Cynghori Gwyddoniaeth Cymru.

Mae Kellie yn angerddol am entrepreneuriaeth ddinesig ac mae'n hyrwyddwr dros yr agenda Ymchwil ac Arloesi ehangach. Mae Kellie yn fam brysur i ddwy ferch ac yn byw yng nghefn gwlad prydferth Sir Fynwy.