Angus M Scott
Mae Angus Scott yn Hyfforddwr Gweithredol yn Efrog Newydd sy'n arbenigo mewn arweinyddiaeth a pherfformiad mewn lleoliadau sefydliadol.
Mae wedi'i ardystio mewn hyfforddiant gan Brifysgol Brown yn Rhode Island. Mae'n gweithio gyda chleientiaid a sefydliadau preifat i helpu arweinwyr i wella eu perfformiad a rheoli eu gyrfaoedd.
Cyn dod yn hyfforddwr, cafodd Angus yrfa 35 mlynedd mewn rheoli technoleg ac arweinyddiaeth. Roedd gan Angus swyddi Rheolwr Gyfarwyddwr yn Bank of America, Credit Suisse, a Bridgewater Associates (un o gronfeydd ragfantoli mwyaf y byd). Yn y cwmnïau hyn, treuliodd Angus y rhan fwyaf o'i amser fel y Prif Swyddog Gweithredu (COO) ar gyfer technoleg. Roedd yn gyfrifol am strategaeth dechnoleg, trawsnewid, datblygiad sefydliadol, modelau gweithredu, llywodraethu TG a rheolaeth ariannol.
Yn ystod ei yrfa datblygodd Angus angerdd am fentora a hyfforddi ei dîm a'i gydweithwyr, gan helpu pobl i wella eu perfformiad a chyflawni eu nodau gyrfa.
Graddiodd Angus o Brifysgol Caerdydd yn 1985 (BSc. Biocemeg). Mae Prifysgol Caerdydd yn annwyl iawn iddo ac mae'n parhau i fod yn ffrindiau agos gyda llawer o'r bobl y cyfarfu â nhw yn ystod ei gyfnod yno.
Yn ei amser hamdden, mae Angus yn hoffi treulio amser gyda Jeanine (ei wraig) a’i blant (y ddau yn astudio mewn prifysgolion yn UDA ar hyn o bryd). Mae e hefyd am ddilyn ei angerdd am gerddoriaeth. Fe yw’r brif gitârydd sy'n chwarae caneuon bandiau eraill - The M62s - sydd wedi'i leoli yn Rye, Efrog Newydd.