Ewch i’r prif gynnwys

Dod Adref: Rhannu Straeon Iechyd Meddwl Cyn-filwyr 

Calendar Dydd Iau 9 Tachwedd 2023, 10:00-Dydd Sadwrn 18 Tachwedd 2023, 16:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Mae Dod Adref yn arddangosfa profiadau bywyd sy'n cael eu hadrodd ar ffurf comic a chartŵn unigryw wedi'i gynhyrchu gan gyn-filwyr ar y cyd ag ymarferwyr profiadau bywyd, gweithwyr proffesiynol yn sector y celfyddydau ac ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd.   

Cofnodwyd straeon grŵp o gyn-filwyr ar-lein yn ystod pandemig Covid, ac mae eu straeon yn taflu goleuni ar agweddau o'u profiadau sydd prin yn cael eu trafod. Cefnogwyd y cyn-filwyr i rannu ac addasu naratif sy'n aml yn drawmatig, a gweithio gyda chartwnydd proffesiynol i greu stori orffenedig. 

Sefydliad y Gweithwyr Oakdale
Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Cardiff
Caerdydd
CF56XB

Rhannwch y digwyddiad hwn