Ewch i’r prif gynnwys

Diogelwch, iechyd a rheoli'r amgylchedd

Rydym yn cymryd iechyd, diogelwch a’r amgylchedd o ddifrif, ac mae gennym bolisïau ar waith i gefnogi a gwarchod ein staff, myfyrwyr a’r amgylchedd.

Mae yna ddwy system rheoli a cydnabyddir yn rhynglwadol sy'n rheoli gweithrediad polisiau diogelwch, iechyd a'r amgylchedd yr Ysgol ac yn cefnogi deddfwriaeth y DU:

  • BS OHSAS 18001:2007 (Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol)
  • ISO 14001 (Amgylcheddol)

Iechyd a diogelwch

Mae'r Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle yn darparu fframwaith cyfreithiol ar gyfer rheoliadau diogelwch a'u cyflwynwyd yn y gweithle. Mae'n bolisi gan yr Ysgol i gydymffurfio â'r ddeddf hon, fel sy'n ofynnol gan y gyfraith, ond hefyd i weithredu'n bositif er mwyn atal anafiadau, difrod a cholled sy'n codi o ganlyniad i waith neu weithgareddau cyfreithiol eraill yn yr Ysgol.

Polisi amgylcheddol

Mae polisi amgylcheddol yn gosod fframwaith ar gyfer rheoliadau amgylcheddol yn yr Ysgol er mwyn mynd i'r afael ag effeithiau amgylcheddol sylweddol gweithrediadau'r Ysgol. Caiff ei weithredu drwy amcanion addas sy'n cefnogi Polisi Amgylcheddol Prifysgol Caerdydd, yn ogystal â deddfwriaeth amylcheddol y DU.

Ein hymrwymiad

Yn unol â'r polisi, byddwn yn:

  • cefnogi polisi Diogelwch, Iechyd a'r Amgylchedd (SHE) Prifysgol Caerdydd a chydymffurfio gyda gofynion y ddeddfwriaeth presennol
  • darparu a defnyddio adnoddau er mwyn sicrhau bod cyngor cymwys am faterion SHE ar gael
  • parhau i ddatblygu a gwiethredu gweithdrefnau a chodau ymarferion gwaith diogel
  • darparu hyfforddiant addas
  • lleihau ein gwastraff ac yn ei ailddefnyddio neu ailgylchu lle bo'n bosib
  • lleihau ein defnydd o ynni a dŵr er mwyn arbed cyflenwadau, a lleihau ein defnydd o adnoddau naturiol
  • ceisio lleihau llygredd air, dŵr a thir gall ddigwydd o ganlyniad i weithgareddau'r Ysgol
  • prynu cynnyrch a gwasanaethau sy'n achosi cyn lleied o niwed i['r amgylchedd, ac ystyried perfformiad amgylcheddol cyflenwyr, nwyddau a gwasanaethau
  • asesu effaith amgylcheddol unrhyw broses neu gynhyrchion rydym yn bwriadu eu cyflwyno cyn eu defnyddio neu eu prynu
  • sicrhau bod pob myfyriwr ac aelod o staff yn deall ein polisïau a'u bod nhw'n cydymffurfio i'r safonau uchel a nodwyd
  • mynd i'r afael â chwynion am unrhyw achos nad yw'n cydymffurfio â'n polisïau yn brydlon a mewn modd sy'n bodloni pawb o dan sylw
  • gosod amcanion clir a monitro cynnydd gan gyfeirio atynt
  • cynnal fframwaith addas ar gyfer ymghynghori am fesurau effeithiol sy'n ymwneud â datblygiad parhaus a hyrwyddo iechyd a diogelwch.

Cysylltu

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y polisïau yma, cysylltwch â:

Luke Davies

Luke Davies

Rheolwr Diogelwch, Iechyd, Amgylchedd a Gwasanaethau Technegol

Email
daviesl77@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 9145