Ewch i’r prif gynnwys

OPT035: Rhagnodi Ymarferol

Nod y modiwl hwn yw rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau i chi ddarparu safon uchel o ragnodi ymarferol.

Mae'r modiwl hwn yn canolbwyntio ar ragnodi ymarferol ar gyfer cyflyrau blaen y llygad a chyflyrau sy'n gysylltiedig â glawcoma. Mae dau sesiwn cyswllt i gyd, gan gynnwys y diwrnod addysgu ar ddiwedd Semester 1 ac arholiad ar gyfer OPT035 yn ystod Semester 2.

Ynghyd ag OPT034 ac OPT036, mae'r modiwl hwn wedi'i achredu gan y Cyngor Optegol Cyffredinol ar gyfer y Cymhwyster Rhagnodi Annibynnol ac mae pwyntiau CET ar gael ar ôl cwblhau elfennau perthnasol o'r modiwl.

Dim ond yn rhan o'r Dystysgrif Ôl-raddedig llawn mewn Rhagnodi Therapiwtig y mae modd astudio'r modiwl hwn, ond efallai y bydd yn bosibl cymhwyso credydau o'r dyfarniad hwn i'r diploma MSc neu’r diploma ôl-raddedig mewn Optometreg Glinigol.

Dyddiad dechrauMedi
Credydau20 credyd - Pwyntiau CET ar gael
RhagofynionOPT034
Tiwtoriaid y modiwlAngela Whitaker
Ffioedd dysgu (2024/25)£1340 - Myfyrwyr cartref
£2500 - Myfyrwyr rhyngwladol
Cod y modiwlOPT035

Amcanion dysgu

Ar ôl cwblhau’r modiwl, dylech allu gwneud y canlynol:

  • gwerthuso ffynonellau gwybodaeth, cyngor a chymorth yn feirniadol i wneud penderfyniadau wrth ragnodi, gan ystyried ymarfer cyfredol ar sail tystiolaeth.
  • dehongli’r fframwaith cyfreithiol a phroffesiynol er mwyn sicrhau atebolrwydd a chyfrifoldeb mewn perthynas â rhagnodi.
  • defnyddio gwybodaeth am bathoffisioleg, nodweddion clinigol a chwrs naturiol y cyflyrau sy'n cael eu trin.
  • adnabod natur a difrifoldeb y cyflwr a gyflwynir a chreu cynllun rheoli clinigol priodol sy'n benodol i’r claf
  • defnyddio gwybodaeth o sut i ragnodi'n ddiogel, yn briodol ac yn gost-effeithiol
  • defnyddio gwybodaeth am sut i ddefnyddio dull cyffredin o wneud penderfyniadau drwy asesu anghenion cleifion o ran meddyginiaethau, gan ystyried eu dewis
  • dadansoddi ymchwiliadau er mwyn trefnu’r opsiynau triniaeth posibl ac i lunio, argymell a chyfiawnhau (drwy roi tystiolaeth o arfarnu'r llenyddiaeth) cynllun rheoli priodol ar gyfer claf â gorbwysedd ocwlar a glawcoma.
  • gwerthuso effeithiolrwydd triniaeth i ostwng pwysedd o fewn y llygad mewn cleifion â gorbwysedd ocwlar a glawcoma ac i benderfynu a ddylid adolygu'r cynllun rheoli yn unol â hynny ai peidio, wrth amddiffyn ac esbonio'r dewis(au) a wneir

Dull cyflwyno’r modiwl

Bydd y modiwl hwn yn cael ei gyflwyno drwy ddarlithoedd ar-lein, gweminar, dysgu ar sail achosion a chyfres o erthyglau ar-lein.

Bydd y modiwl hwn yn cael ei astudio dros ddau semester. Bydd y modiwl yn cynnwys diwrnod addysgu wyneb-yn-wyneb (os mae cyfyngiadau Covid yn caniatáu hyn) ar ddiwedd semester un. Bydd myfyrwyr yn cymryd rhan mewn sesiynau addysgu rhyngweithiol gan gynnwys astudiaethau achos.

Drwy gydol y modiwl, bydd myfyrwyr yn astudio gan ddefnyddio cyfres o erthyglau a darlithoedd dysgu o bell a gyflwynir ar Dysgu Canolog. Mae trafodaethau achos rhyngweithiol a gweithgareddau addysgu eraill yn rhan o weminarau.

Mae pob diwrnod cyswllt a'r weminar yn weithgareddau gorfodol.

Sgiliau a fydd yn cael eu hymarfer a'u datblygu

Sgiliau academaidd

  • datblygu eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth eich hun
  • casglu ynghyd a chyfosod gwybodaeth o sawl adnodd i wella dysgu
  • ysgrifennu'n gryno ac yn glir ar gyfer y gymuned academaidd a chlinigol
  • dehongli data

Sgiliau cyffredinol

  • rheoli prosiectau ac amser
  • gweithio’n annibynnol
  • defnyddio ystod o becynnau meddalwedd TG ac adnoddau ar-lein
  • datrys problemau

Cynnwys y maes llafur

  • adeiledd a swyddogaeth glawcoma
  • glawcoma a chyflyrau sy'n gysylltiedig â glawcoma: diagnosis a diagnosis gwahaniaethol
  • glawcoma a chyflyrau sy'n gysylltiedig â glawcoma: eu rheolaeth
  • meddyginiaethau ar gyfer glawcoma ac i ostwng pwysedd o fewn y llygad (IOP)
  • goniosgopi mewn ymarfer optometrig
  • ymarfer ar sail tystiolaeth: Canllaw glawcoma NG81 NICE a ffynonellau tystiolaeth eraill
  • risg, cymysgedd o achosion a rôl broffesiynol optometryddion mewn gofal glawcoma

Sut bydd y modiwl yn cael ei asesu

Asesiad ffurfiannol:

Bydd gweithgareddau ffurfiannol yn cael eu cyflwyno ar-lein. Byddwch yn cael cyfle i gyflwyno adroddiad achos ffurfiannol a chael adborth manwl cyn yr adroddiad achos crynodol.

Asesiad crynodol:

  • Prawf ar-lein (65%): Byddwch yn sefyll prawf ysgrifenedig ar-lein a fydd yn para dwy awr yn ystod yr ail semester.
  • Adroddiadau Achos (35%): Bydd gofyn i chi gyflwyno un adroddiad achos yn gynnar yn yr ail semester ar glaf â gorbwysedd ocwlar, glawcoma, neu gyflwr sy'n gysylltiedig â glawcoma.