Ewch i’r prif gynnwys

OPT021: Sgiliau Arwain i Weithwyr Proffesiynol Optegol

Mae'r modiwl hwn yn rhoi cyfle i chi ddod yn arweinydd effeithiol ar lefel leol a rhanbarthol o fewn y sector optegol.

Cyflawnir hyn trwy gefnogi a datblygu Pwyllgorau Optegol Lleol, adeiladu rhwydweithiau strategol effeithiol, dylanwadu ar lunwyr polisi a gwella gwasanaethau iechyd llygaid i gleifion. Mae hefyd yn ceisio darparu dealltwriaeth o ddulliau damcaniaethol a modelau arwain cyfredol.

Bydd y modiwl hwn o fudd arbennig i'r rhai sy'n ymwneud â gwasanaethau comisiynu, ond mae hefyd o fudd i unrhyw un sydd â rôl arwain neu fentora ym maes gofal llygaid. Mae'n agored i bob gweithiwr proffesiynol offthalmig cofrestredig gan gynnwys optegwyr dosbarthu ac optegwyr lensys cyffwrdd, ymarferwyr meddygol offthalmig, nyrsys offthalmig, orthoptyddion a rheolwyr optegol profiadol.

Bydd dau ddiwrnod o weithdai ymarferol. Bydd y rhain fel arfer yn cael eu cynnal yn Llundain ym mis Ebrill. Bydd yr union drefniadau ar gyfer sesiynau ymarferol yn dibynnu ar ganllawiau COVID-19 ar y pryd.

Mae'r modiwl hwn yn ategu OPT013, OPT016 ac OPT020

Dyddiad dechrauMawrth
Credydau30 credyd - Does dim pwyntiau CET ar gael ar gyfer y modiwl hwn.
RhagofynionDim
Tiwtoriaid y modiwlSimone Mason (Arweinydd)
Helen Haslett (Arweinydd)
Ffioedd dysgu (2024/25)£1340 - Myfyrwyr cartref
£2500 - Myfyrwyr rhyngwladol
Cod y modiwlOPT021

Amcanion dysgu

Ar ôl cwblhau’r modiwl, dylech chi allu gwneud y canlynol:

  • myfyrio'n feirniadol ar wybodaeth am faterion cymhleth, dadleuol a/neu gynhennus sy'n ymwneud ag arweinyddiaeth ym maes optometreg ac iechyd gofal yn y DU
  • gwerthuso a chymhwyso cysyniadau allweddol modern o arweinyddiaeth ym maes optometreg a gofal iechyd a gallu eu cymhwyso i heriau o fewn eu pwyllgorau, grwpiau rhanddeiliaid, gwasanaethau a/neu eu busnes eu hunain
  • archwilio, dadansoddi'n feirniadol, cyfosod a gwerthuso llenyddiaeth sy'n seiliedig ar dystiolaeth, a chysyniadau mewn arweinyddiaeth, adeiladu tîm, negodi a rheoli newid i lywio datblygiad dull arwain
  • cyflwyno dadleuon cytbwys a gwybodus, gan ymgorffori barn a phenderfyniadau beirniadol mewn gwaith ysgrifenedig.
  • myfyrio'n effeithiol ar ddysgu a'i werthuso
  • datrys problemau a datblygu argymhellion yn seiliedig ar dystiolaeth a barn gadarn

Dull cyflwyno’r modiwl

Addysgir y modiwl hwn trwy ddau ddiwrnod cyswllt gorfodol o weithdai ymarferol a thrafodaethau â’r grŵp cyfoedion. Mae'r diwrnodau cyswllt yn cael eu cynnal ar ddiwrnodau olynol ym mis Ebrill.

Darperir o leiaf tair gweminar mewn grwpiau bach yn ogystal â thrafodaethau anghydamserol yn Dysgu Canolog. Darperir adnoddau ar gyfer darllen craidd: mae hyn yn cynnwys gwerslyfr sy'n cael ei anfon at yr holl fyfyrwyr a dolenni i erthyglau cyfnodolion sydd ar gael trwy Dysgu Canolog. Rydym hefyd yn defnyddio fideos, podlediadau ac adnoddau gwe. Disgwylir i chi ymgymryd â'ch ymchwil ychwanegol eich hun i bynciau o ddiddordeb ar gyfer eich aseiniadau.

Cynnwys y maes llafur

  • Proffilio a seicometreg - deall eich dewisiadau gwaith eich hun a dewisiadau'r grŵp.
  • Arddulliau a modelau arwain
  • Dadansoddiad PESTLE a SWOT a datblygu strategaeth ranbarthol
  • Sgiliau Cyfryngau
  • Sgiliau ac ymddygiadau cyd-drafod a dylanwadu
  • Sgiliau ysgogi a hyfforddi
  • Ymarferion mapio ar gyfer y rhanbarthau (gan gynnwys dadansoddi a chyflwyno data)
  • Comisiynu meddygon teulu
  • Sesiynau adolygu clinigol/cyfoedion ac addysgu clinigol
  • Y cyd-destun gwleidyddol i arwain yn y sector optegol, gan greu'r weledigaeth genedlaethol a rhanbarthol ar gyfer opteg
  • Theori ac ymarfer dysgu trwy weithredu

Sgiliau y byddwch yn eu hymarfer a'u datblygu

Sgiliau academaidd

  • Datblygu eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth eich hun
  • Casglu ynghyd a chyfosod gwybodaeth o sawl adnodd i wella dysgu
  • Ysgrifennu'n gryno ac yn glir ar gyfer y gymuned academaidd a chlinigol
  • Dehongli data

Sgiliau cyffredinol

  • Rheoli prosiectau ac amser
  • Gweithio’n annibynnol
  • Defnyddio ystod o becynnau meddalwedd TG ac adnoddau ar-lein
  • Datrys problemau

Dull asesu’r modiwl

Bydd gwaith y cwrs yn asesu eich gallu i ysgrifennu mewn arddull sgyrsiol ddeniadol (Blogiau) ac mewn arddull academaidd broffesiynol ffurfiol (adolygiad beirniadol a thraethawd)

  • Blogiau (50%): Bydd gofyni chi ysgrifennu blog wythnosol. Un blog y pythefnos, ac o leiaf 10 blog dros gyfnod y cwrs; bydd 6 o'ch dewis yn cyfrif fel 50% o'ch marc terfynol. Bydd adborth yn cael ei roi i bob myfyriwr ar bob postiad blog i ategu gwelliant parhaus. Bydd un blog yn flog adolygu beirniadol gorfodol (mewn arddull academaidd ffurfiol)
  • Gwaith Cwrs Ysgrifenedig (50%): Gallwch ddewis unrhyw bwnc o'r cwrs arweinyddiaeth i’w archwilio ymhellach yn eich traethawd (mewn arddull academaidd ffurfiol).