Ewch i’r prif gynnwys

Doctoriaid Yfory

19 Hydref 2017

Photograph of student doctor
Year 4 student Ainsley Richards

Mae'n dymor newydd ac mae camerâu S4C yn dychwelyd i Brifysgol Caerdydd i ddilyn hynt a helynt 11 o fyfyrwyr meddygol yn ystod blwyddyn o hyfforddiant yn Doctoriaid Yfory, sy'n dychwelyd nos Fawrth, 24 Hydref.

Mae'r gyfres ddogfen chwe-rhan yn dilyn taith emosiynol y myfyrwyr, sy'n amrywio o 18 i 23 oed, wrth iddynt fynd i'r afael â gofynion blwyddyn academaidd ddwys, a thensiwn theatrau llawdriniaeth prysur, meddygfeydd a wardiau ledled Cymru a thu hwnt.

O ddiogelwch yr ystafell ddosbarth, i realiti caled wardiau ysbytai ar draws Cymru, bydd llawer ohonyn nhw'n wynebu profiadau cyntaf anodd. Ar groesffordd yn eu bywydau, rydym yn gweld y meddygon ifanc yn wynebu sefyllfaoedd dwys, o golli claf i reoli clefydau cronig, gan ddelio ag effaith canser ar gleifion a theuluoedd a meistroli sgiliau sylfaenol fel cymryd gwaed a phwytho am y tro cyntaf. Byddwn yn cael cipolwg ar bwysau a heriau dysgu o fewn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, yn ogystal â chlywed straeon pwerus am gleifion a gweithwyr proffesiynol ysbrydoledig sy'n mowldio meddygon yfory. Gan rannu eu dyheadau a'u ofnau, mae'r myfyrwyr yn adlewyrchu gwaith anhygoel a diflino staff y GIG ar draws y wlad.

Y myfyrwyr sy'n cymryd rhan yw: Ainsley Richards o Lanelli; Moshan Anwar o Landegfan; Eleri Sweeny o Benrhyndeudraeth; Eben Rees o Ben Llŷn; Dafydd Pearce o Aberhonddu; Emily Lloyd o Grymych; Jess McVeigh o Abertawe; Rhodri James o Aberystwyth a Ffion Thrythall o Bwllheli.

photograph of medical student

Mae’r pryderon am brinder meddygon Cymraeg i wasanaethu cleifion mewn ysbytai a meddygfeydd ar draws Cymru yn hawlio’r penawdau’n gyson.  Mae Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd wedi torri tir newydd mewn gwahanol agweddau o waith meddygol, ac un agwedd ar y gwaith hwn yw defnyddio mwy nag un iaith ar gyrsiau hyfforddi. Gan weithio ar y cyd â'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, mae’r Ysgol yn paratoi myfyrwyr i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg.

Meddai Dr Anwen Iorwerth sy'n Ddarlithydd Clinigol yn Ysgol Feddygaeth Caerdydd ac yn gweithio ar ran y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, "Mae'r cwrs yma i fod i ddatblygu meddygon ifanc sy'n barod i wasanaethu'r gymuned rydym yn byw ynddi. Felly, rydyn ni ishio pobl ifanc brwdfrydig sy'n adnabod eu cymdeithas ac yn gallu eu gwasanaethu nhw. 'Dan ni ishio myfyrwyr sy'n gallu cynnig gwasanaeth yn y Gymraeg a Saesneg ond rydyn ni am roi hyder i'r rhai sydd ddim yn siarad Cymraeg i weithio yn yr ardaloedd gwledig, fel nad ydynt yn ofn y Gymraeg."

Yn y rhaglen gyntaf, mae Emily Lloyd, sy'n fyfyrwraig yn y bedwaredd flwyddyn, ar wythnos gyntaf ei lleoliad yn Ysbyty Tywysoges Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr. Ceisio dod i'r afael â llawdriniaeth agored wrth roi pen-glin newydd i glaf bydd Ainsley Richards, sydd yn y Bedwaredd Flwyddyn, ac mae Jess McVeigh a Rhodri James sy'n fyfyrwyr yn y drydedd flwyddyn yn dygymod â realiti achosion brys yn Ysbyty Gwynedd, Bangor.

Meddai Jess McVeigh, "Hoffwn i fod yn ddoctor mae pobl yn gallu ymddiried ynddi, ac yn gallu siarad â hi. Un o'r uchafbwyntiau gorau ges i ar leoliad eleni, yn enwedig yn Ysbyty Gwynedd oedd bod yn A&E a bod yn rhan o'r tîm. Wy'n cofio fy niwrnod cyntaf - do'n i ddim yn gwybod beth i ddisgwyl, a wy'n cofio teimlo fel fish out of water. Chi jest yn gorfod mynd i mewn yna a dysgu ar y job. Dyna'r tro cyntaf i fi sylwi pa mor hectic oedd placement."

Dywedodd cynhyrchydd y gyfres Llinos Griffin-Williams o Green Bay Media: “Ni allai'r gyfres ddarluniadol hon wedi bod yn bosib heb gydweithrediad gweithredol Ymddiriedolaethau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol led led Cymru a phartneriaeth agos rhwng S4C ac Ysgol Feddygol Prifysgol Caerdydd.

“Mae caredigrwydd a goddefgarwch y staff ymroddedig ym mhob agwedd ar feddyginiaeth led led Cymru, sydd wedi ymrwymo i addysgu'r genhedlaeth nesaf o Feddygon Cymreig yn ganmoladwy, fel agwedd arloesol at feddygaeth addysgu gan y Brifysgol. Mae'r myfyrwyr hyn yn rhyfeddol; yn wydn, yn empathetig ac yn benderfynol; rydym yn falch iawn o allu dangos Cymru bod ein hiechyd mewn dwylo diogel.”

Rhannu’r stori hon

Edrychwch beth sydd gan ein myfyrwyr meddygaeth i’w ddweud am astudio yma.