Ewch i’r prif gynnwys

Cwsg a hwyliau mewn anhwylder deubegynol

11 Hydref 2017

photograph of Katie Lewis

Gall colli cwsg achosi atglafychu, yn enwedig ar ffurf mania, mewn pobl sydd â diagnosis o anhwylder deubegynol. Dyma un o ddarganfyddiadau astudiaeth gan Brifysgol Caerdydd.

Mae ymchwil newydd, dan arweiniad myfyriwr PhD Prifysgol Caerdydd Katie Lewis, o’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl (NCMH), yn awgrymu y gallai un  bob pedwar o bobl sydd ag anhwylder deubegynol fod mewn perygl o gael pwl o hwyliau uchel yn dilyn colli cwsg.

Gallai deall pa ffactorau sy’n dylanwadu ar y berthynas rhwng cwsg a phyliau o hwyliau helpu i ragweld pa unigolion sydd fwyaf tebygol o atglafychu yn dilyn cyfnodau o ddiffyg cwsg, er enghraifft, oherwydd teithio pellter hir neu waith shifft. Gallai hefyd darparu gwybodaeth ar gyfer technegau hunanreolaeth, fel e-fonitro.

Dyma’r astudiaeth fwyaf hyd yma ar fynychder colli cwsg fel ysbardun i unigolion ag anhwylder deubegynol, a’r gyntaf i archwilio colli cwsg fel ysbardun i byliau manig ac iselhaol ill dau mewn sampl fawr o unigolion ag anhwylder deubegynol.

Roedd maint mawr y sampl yn golygu bodd modd i’r tîm archwilio edrych a yw is-deip deubegynol (teip 1 neu 2), yn ogystal â rhyw, yn gallu effeithio ar ba mor agored yw pobl i golli gwsg. Gall is-deipiau deubegynol teip 1 a theip 2 gynrychioli cyflyrau iechyd meddwl difrifol iawn. Fodd bynnag, y prif wahaniaeth rhwng anhwylder deubegynol teip 1 a theip 2 yw bod pobl â theip 1 yn fwy tueddol i gael pyliau o hwyliau uchel, gan olygu y gallai fod angen iddynt fynd i’r ysbyty.

Eglurodd Katie: "Daeth i’r amlwg i ni fod 20% o bobl ag anhwylder deubegynol yn nodi fod colli cwsg wedi ysbarduno pyliau o hwyliau uchel, tra bod 12% yn nodi fod colli cwsg wedi ysbarduno pyliau o hwyliau isel.

“Roedd tuedd i golli gwsg sy’n ysbarduno pyliau o hwyliau uchel yn fwy tebygol ymhlith menywod a phobl ag anhwylder deubegynol math 1..."

"Roedd y canfyddiad yn aros yr un fath wrth gyfrif am bethau fel y nifer o byliau a brofwyd, oedran, a difrifoldeb y salwch. Mewn gwrthgyferbyniad, roedd y tuedd i golli cwsg sy’n ysbarduno iselder yr un fath ar draws yr is-deipiau deubegynol a’r rhywiau yn ôl pob golwg."

Dr Katie Lewis PhD student, Division of Psychological Medicine & Clinical Neurosciences

Yn yr astudiaeth, fe wnaeth Katie a’i chydweithwyr gyfweld â 3,140 o unigolion wedi eu tynnu fel sampl o’r Rhwydwaith Ymchwil ar gyfer Anhwylder Deubegynol.  Recriwtiwyd pobl o bob cwr o’r DU, drwy dimoedd iechyd meddwl cymunedol y GIG a sefydliadau cymorth i gleifion megis Bioplar UK.

Nid yw’n glir pam mae rhai unigolion yn dioddef o iselder wedi pyliau o ddiffyg cwsg tra bod eraill yn mynd yn fanig. Mae’n bosib bod yr ysbardunau eraill a gysylltir ag atglafychu mewn anhwylder deubegynol, megis digwyddiadau bywyd ingol neu gyffrous, defnyddio meddyginiaeth, neu wrthdaro rhyngbersonol, yn gallu cyd-daro â’r colli cwsg a brofir gan bobl.

Daeth Katie i'r casgliad: "Gallai ymchwil yn y dyfodol edrych ar rôl genynnau wrth benderfynu pa bobl sy’n arbennig o agored i byliau o salwch a achosir gan golli cwsg.”

Cyhoeddwyd yr astudiaeth ‘‘Sleep loss as a trigger of mood episodes in bipolar disorder: individual differences based on diagnostic subtype and gender’ yn y British Journal of Psychiatry.

Mae’r tîm yn y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl yn mynd â’r gwaith ymhellach ar hyn o bryd drwy fesur cwsg yn uniongyrchol gan ddefnyddio monitorau gweithgarwch, ac maent yn awyddus i glywed gan unrhyw un a hoffai helpu gyda’r ymchwil. Am ragor o wybodaeth, gweler http://www.ncmh.info/sleep-bipolar-disorder/

Rhannu’r stori hon

Mae ein hymchwilwyr yn gweithio ar draws disgyblaethau i fynd i’r afael â heriau pwysig sy’n wynebu cymdeithas, yr economi a’n hamgylchedd.