Ewch i’r prif gynnwys

Gwyddonwyr yn taflu goleuni ar neidiau tymheredd rhyfedd yn ystod cyfnodau oes iâ

20 Mehefin 2017

Ice Age

Mae gwyddonwyr o'r farn eu bod wedi darganfod y rheswm y tu ôl i newidiadau rhyfedd i'r hinsawdd pan fu tymereddau’n amrywio hyd at 15°C o fewn ychydig ddegawdau’n unig ystod cyfnodau oes iâ.

Mewn astudiaeth newydd a gyhoeddwyd heddiw, mae’r ymchwilwyr yn dangos y gallai lefelau cynyddol o CO2 fod wedi cyrraedd pwynt tyngedfennol yn ystod y cyfnodau rhewlifol hyn, gan ysgogi cyfres o ddigwyddiadau cadwyn a wnaeth i’r tymheredd godi'n sydyn.

Mae'r canfyddiadau, a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn Nature Geoscience, yn ychwanegu at y dystiolaeth gynyddol sy'n awgrymu y gall newidiadau graddol fel cynnydd yn y lefelau CO2 arwain at nodweddion annisgwyl sydyn yn ein hinsawdd, a all gael eu sbarduno pan fydd trothwy penodol yn cael ei groesi.

Ddigwyddiadau Dansgaard-Oeschger

Nodweddir y digwyddiadau hyn gan newidiadau tymheredd eithafol o hyd at 15°C o fewn ychydig ddegawdau yn lledredau uchel Hemisffer y Gogledd. Roedd hyn yn wir yn ystod y cyfnod rhewlifol diwethaf tua 100,000 i 20,000 o flynyddoedd yn ôl.

Credir yn gyffredinol fod hyn yn ganlyniad i lifogydd sydyn o ddŵr croyw ledled Gogledd yr Iwerydd, efallai o ganlyniad i fynyddoedd iâ yn toddi.

Yn ôl yr Athro Rob Parker, o Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Amgylchedd Prifysgol Caerdydd, cydawdur yr astudiaeth: “Mae ein canlyniadau’n cynnig esboniad arall i’r ffenomen hon ac yn dangos y gall cynnydd graddol CO2 yn yr atmosffer gyrraedd pwynt tyngedfennol, gan sbarduno newidiadau tymheredd sydyn a sylweddol sy’n effeithio ar yr hinsawdd ar draws Hemisffer y Gogledd mewn cyfnod cymharol fyr o amser.

“Mae'r canfyddiadau hyn yn ychwanegu at dystiolaeth gynyddol sy'n awgrymu bod amodau perffaith neu 'ffenestri cyfle' yn yr hinsawdd lle mae amodau ffiniol fel y’u gelwir, megis lefel y CO2 atmosfferig neu faint llenni iâ cyfandirol, yn gwneud i newid sydyn fod yn fwy tebygol o ddigwydd...”

“Wrth gwrs, mae ein hastudiaeth yn edrych yn ôl mewn amser ac yn y dyfodol bydd pethau’n wahanol iawn o ran llenni iâ a CO2 ond bydd rhaid aros i weld a fydd hinsawdd y Ddaear yn mynd yn fwy neu’n llai sefydlog wrth inni symud ymlaen o'r fan hon.”

Yr Athro Stephen Barker Reader, Director of Research

Gan ddefnyddio modelau hinsawdd i ddeall y prosesau ffisegol a oedd yn chwarae rhan yn ystod cyfnodau rhewlifol, llwyddodd y tîm i ddangos bod cynnydd graddol mewn CO2 wedi cryfhau’r gwyntoedd masnach ar draws Canolbarth America drwy ysgogi patrwm cynhesu tebyg i El Niño gyda mwy o gynhesu yn Nwyrain y Cefnfor Tawel nag yng Ngorllewin yr Iwerydd.

O ganlyniad, bu cynnydd yn y lleithder a oedd yn cael ei gludo allan o’r Iwerydd, a hynny’n cynyddu helltni a dwysedd arwynebeddau’r cefnfor, gan arwain at gynnydd sydyn yng nghryfder y cylchrediad a chodiad yn y tymheredd.

“Nid yw hyn yn golygu o anghenraid y byddai adwaith tebyg yn digwydd yn y dyfodol gyda chynnydd yn y lefelau CO2, gan fod yr amodau ffiniol yn wahanol i rai oes yr iâ,” ychwanegodd yr Athro Gerrit Lohmann, arweinydd y Grwp Dynameg Paleohinsoddol  yn Athrofa Alfred Wegener.

“Serch hynny, mae ein hastudiaeth yn dangos bod modelau hinsawdd yn gallu efelychu newidiadau sydyn drwy orfodi graddol fel y gwelir yn y data paleohinsoddol.”

Gan adeiladu ar yr astudiaeth hon, mae’r tîm yn bwriadu cynhyrchu ail-luniad newydd o’r cyfaint iâ byd-eang ar draws y cylch rhewlifol diwethaf, a fydd yn helpu i ddilysu eu gosodiad y gall rhai ffiniau penodol ddiffinio cyfnodau o ansefydlogrwydd yn y system hinsawdd.

Roedd yr ymchwil o dan arweiniad tîm yn Athrofa Alfred Wegener ac yn cynnwys academyddion o Brifysgol Caerdydd, Labordy Cenedlaethol Qingdao ar gyfer Gwyddor a Thechnoleg Forol a Phrifysgol Bremen. Cefnogwyd y gwaith gan brosiect cydweithredol, a ariannwyd gan BMBF yr Almaen ar gyfer modelu paleohinsoddol (PalMod), y Gymdeithas Helmholtz a NERC y DU.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol wedi ymrwymo i sicrhau’r safonau uchaf mewn ymchwil ac addysg ac – o dan arweiniad ymchwil – i ddarparu amgylchedd cyfoethog ac amrywiol.