Ewch i’r prif gynnwys

Lleihau'r bwlch anableddau

22 Rhagfyr 2016

Enabling person in workplace

Mae tîm o ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd yn arwain y drafodaeth ynglŷn â lleihau'r bwlch cyflogaeth i bobl anabl yn y DU.

Cynhaliwyd cynhadledd yn ddiweddar – Cau Bylchau i Bobl Anabl ym Myd Gwaith – a drefnwyd gan Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol ac Ysgol Busnes Caerdydd, i lywio ymateb amryw sefydliadau i'r Papur Gwyrdd a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU fel cam cyntaf at gyrraedd eu targed i haneru'r bwlch rhwng cyfraddau cyflogaeth pobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl erbyn diwedd cyfnod y llywodraeth bresennol.

Mae hefyd wedi dod â gwahanol fathau o sefydliadau at ei gilydd sydd â diddordeb mewn gwella bywydau pobl anabl, megis y corff ambarél Disability Rights UK ac elusennau sy'n gweithredu ledled Prydain fel Cymorth Canser Macmillan.

Agorwyd y gynhadledd gyda chyflwyniadau allweddol gan y Fonesig Athro Carol Black, ymgynghorydd arbennig Llywodraeth y DU ar waith ac iechyd, a Nicola Gilpin, Arweinydd Dadansoddi yn Uned Gwaith ac Iechyd Llywodraeth Prydain.

Yna, cynhaliwyd sesiynau i dynnu sylw at y gwaith ymchwil a wneir ym Mhrifysgol Caerdydd ar gyfer gweithwyr anabl a'r bwlch cyflogaeth i bobl anabl, ynghyd â phedwar gweithdy a ganolbwyntiodd ar syniadau ar gyfer polisïau ac arloesi ym maes ymarfer.

Yr Athro Ralph Fevre o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol a’r Athro Melanie Jones, yr Athro Victoria Wass, a Dr Deborah Foster o Ysgol Busnes Caerdydd. Dywedodd Ralph: "Yr hyn rydym wedi'i ddysgu o'r gynhadledd yw bod llawer o waith yn mynd rhagddo, ac nid oes modd, o reidrwydd, i'r sefydliadau sy'n gyfrifol rannu'r gwaith hynny â sefydliadau eraill yn eu sector eu hunain. At hynny, mae rhannu'r gwaith â'r rhai sydd y tu hwnt i'w sector yn anoddach fyth..."

"Golyga hyn nad yw ymchwil, argymhellion ar gyfer polisïau, arferion da, ac arloesedd yn cael eu rhannu rhwng sefydliadau ar gyfer pobl anabl cymaint ag y gallent fod; a bod hyd yn oed llai o rannu rhwng y sefydliadau ac undebau llafur hyn neu feddygon a nyrsys ym maes iechyd galwedigaethol."

Yr Athro Ralph Fevre Professor

"Er enghraifft, mae therapyddion galwedigaethol yn gwneud gwaith rhagorol gyda Chymorth Canser Macmillan ond mae'n rhaid rhannu'r hyn a ddysgir drwy wneud y gwaith hwn yn eang."

Mae'r gynhadledd yn ddechrau proses ar gyfer y tîm ym mhrosiect Partneriaethau sy'n Seiliedig ar Dystiolaeth ynglŷn â Chyflogaeth Pobl Anabl (DEEPEN) Prifysgol Caerdydd, ac maent yn gobeithio defnyddio'r ymchwil berthnasol gan Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol ac Ysgol Busnes Caerdydd fel modd o ehangu gwaith cydweithredol rhwng yr holl sefydliadau a gynrychiolwyd yn y gynhadledd, ynghyd â rhanddeiliaid eraill â buddiant.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn ganolfan a gydnabyddir yn rhyngwladol ar gyfer addysgu ac ymchwil o ansawdd uchel.