Ewch i’r prif gynnwys

Clystyrau cydweithredol yn bragu ar draws Cymru

21 Ionawr 2019

Men sit and stand around table
Professor Maneesh Kumar and Dr Vasco Rodrigues lead focus group at Felinfoel Brewery HQ

Mae cyfres o grwpiau ffocws ym mragdai Rhymney, Felinfoel a Purple Moose wedi bod yn ystyried beth fyddai ei angen i greu clystyrau cydweithredol yn y sector cwrw yng Nghymru.

Dan arweiniad arbenigwyr o brosiect Cydweithio Er Twf (Co-Growth) Prifysgol Caerdydd, daeth dros bymtheg o fragdai gwahanol o bob rhan o Gymru i'r digwyddiadau.

Defnyddiwyd y cyfle i drafod cydweithio mewn meysydd busnes yn cynnwys: dosbarthu, potelu/canio, datblygu cynnyrch, rheoli ansawdd, allforio, hyfforddi a chaffael ynni.

Mae'r grwpiau ffocws yn dilyn gweithdy cwmpasu a gynhaliwyd yng Ngwesty'r Metropole yn Llandrindod ym mis Gorffennaf 2018 lle dangosodd tîm Co-Growth Ysgol Busnes Caerdydd sut y gallai dull gweithredu'n seiliedig ar glystyrau arwain at effaith sylweddol i gynhyrchwyr diodydd yng Nghymru ym meysydd twf, enillion ar fuddsoddiadau, defnydd dŵr, ôl troed carbon a chynhyrchedd.

Edrych yn ddyfnach

people gathered around brewing equipment
Workshop attendees are given a tour of the Purple Moose brewing facilities

Gan ddechrau lle y gorffennodd y digwyddiad ym mis Gorffennaf, edrychodd pob grŵp ffocws yn ddyfnach ar sut y gellid cymhwyso'r dull gweithredu hwn ar draws Cymru.

Arweiniodd yr Athro Maneesh Kumar, deiliad Cadair Gweithrediadau Gwasanaeth yn Ysgol Busnes Caerdydd, sesiwn ryngweithiol oedd yn canolbwyntio ar reoli ansawdd mewn gweithrediadau fel storio, cynhyrchu (eplesu a chyflyru), danfon a gwaredu gwastraff.

Cafwyd trafodaeth ar rag-amodau, cymhellion a manteision cyflwyno cydweithio rhwng cwmnïau yn y sector cwrw yng Nghymru.

Ymhlith y manteision a nodwyd gan gyfranogwyr roedd ffocws o'r newydd ar gymwyseddau craidd, cynnydd mewn gwerthiant drwy sicrhau marchnadoedd newydd gyda'i gilydd a chyd-gyflawni arbedion cost.

Risgiau gweithrediadol, ariannol a marchnad

People gathered around brewing equipment
Academics and practitioners discuss brewing process at Rhymney Brewery

Hefyd nodwyd nifer o risgiau a allai godi wrth ffurfio clystyrau cydweithredol.

Y prif bryderon o ran y dull gweithredu clwstwr oedd y risgiau gweithrediadol, ariannol a marchnad i fragdai unigol drwy gydweithio.

Eglurodd cyfranogwyr sut y gallai safoni beryglu amrywiaeth y cwrw Cymreig sydd ar gael i ddefnyddwyr ac efallai na fyddai buddsoddi'n arwain at fuddion yn syth.

Dywedodd Dr Vasco Sanchez Rodrigues, Uwch-ddarlithydd mewn Logisteg a Rheoli Gweithrediadau yn Ysgol Fusnes Caerdydd: “Roedd y tri gweithdy'n hanfodol ar gyfer datblygu nodau ein hymchwil, er mwyn galluogi a chyfoethogi cydbartneriaethau o fewn y sector cwrw yng Nghymru...”

“Rhan o'r broses hon yw gweithio drwy logisteg menter o'r fath. Beth yw'r manteision? Y risgiau? Pa amodau sydd eu hangen i sefydlu ymagwedd fel hon? Drwy ofyn cwestiynau o'r fath bydd y clystyrau'n fwy cadarn pan fyddant ar waith a bydd cyfranogwyr wedi chwarae rhan ganolog yn eu sefydlu.”

Yr Athro Vasco Sanchez Rodrigues Professor in Sustainable Supply Chain Management

Bydd Tîm Co-Growth yn dilyn llwyddiant y grwpiau ffocws drwy drefnu digwyddiadau tebyg gyda gwneuthurwyr gwin, seidr a gwirodydd ar draws Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth am brosiect Co Growth, neu os oes gennych ddiddordeb mewn dod i ddigwyddiad yn y dyfodol, cysylltwch ag Angharad Kearse.

Angharad Kearse

Angharad Kearse

External Engagement Officer, Executive Education

Siarad Cymraeg
Email
kearsee@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2251 0873

Rhannu’r stori hon

Rydym yn cynnig cymorth wedi’i dargedu a chyfleoedd datblygu trwy ein gweithgareddau addysgu, ymchwil ac ymgysylltu.