Ewch i’r prif gynnwys

Gwenyn yn arloesi cyfuniad o ‘de mêl’ newydd

20 Tachwedd 2018

School boy looking at bee

Mae cymysgedd newydd o ddiod boeth sy’n cynnwys te, mêl a chynhwysion llysieuol yn cael ei greu yng Nghymru.

Mae Prifysgol Caerdydd yn ymuno â Welsh Brew Tea a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro i gyfuno mêl a nodweddion te sy’n hybu iechyd.

Mae Welsh Brew Tea o Abertawe, sy’n frand Cymreig eiconig ers dros 30 mlynedd, wedi creu cymysgedd unigryw o de Affricanaidd ac Indiaidd. Mae’r rhain wedi eu cymysgu i weddu i ddŵr Cymru yn benodol. Mae’r cwmni wedi creu amrywiaeth o de a thrwythiadau arbennig.

“Rydym wrth ein boddau yn ymuno â’r Athro Les Baillie a’i dîm @pharmabees ym Mhrifysgol Caerdydd er mwyn datblygu diod newydd sbon o safon. Bydd hon yn cyd-fynd â’n hamrywiaeth o de o’r radd flaenaf,” meddai cyfarwyddwr a sefydlydd y cwmni, Alan Wenden.

School children looking at bee hive

“Ein hawydd i arloesi ym maes cynhyrchu te a chwilio am syniadau a blasau newydd wnaeth ein hysgogi i sefydlu’r cwmni ugain mlynedd yn ôl, ac mae’n dal i sbarduno ein gwaith heddiw. Mae’r prosiect yn enghraifft dda o sut mae’r brifysgol yn gweithio gyda diwydiant Cymru i ddatblygu cynhyrchion sy’n manteisio ar gyfoeth naturiol Cymru gan wella lles pobl Cymru yn sgîl hynny.

Mae’r gwenyn yn rhan o brosiect arobryn @pharmabees Prifysgol Caerdydd. Nod y prosiect yw datblygu mêl tebyg i Manuka er mwyn trin pathogenau sy’n ymwrthol i wrthfiotigau mewn ysbytai.

Dywedodd yr Athro Les Baillie, o'r Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol: “Heblaw am ddŵr, te yw’r ddiod fwyaf poblogaidd yn y byd. Ar ben gwneud i ni deimlo’n dda, mae rhai’n credu ei fod yn lleihau’r risg o ganser, clefyd cardiofasgwlar, arthritis a diabetes. Mewn astudiaethau labordai, mae te wedi dangos ei fod yn gallu lladd bacteria ymwrthol i wrthfiotigau fel MRSA a Clostridium difficile.

“Dychmygwch y manteision a geir o gyfuno te â mêl naturiol a llysiau meddyginiaethol. Mae mêl wedi cael ei ddefnyddio am filenia i drin amrywiaeth o gyflyrau, gan gynnwys anwydau”.

Mae ein partneriaeth gyda Welsh Brew Tea yn rhan o’n gwaith i ddatblygu mêl sy’n gallu lladd bacteria ymwrthol iawn. Bydd hyn yn efelychu mêl Manuka Seland Newydd y mae ei nodweddion gwrthfacteria yn deillio o’r cyfansoddion naturiol planhigion. Mae’r gwenyn yn trosglwyddo’r cyfansoddion hyn o’r planhigion wrth iddynt wneud y mêl.

Yr Athro Les Baillie Professor of Microbiology

Robyn Davies, Pennaeth Arloesedd dros Fwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro “Pleser o’r mwyaf yw ychwanegu’r prosiect hwn at ein portffolio o arloesiadau sy’n cefnogi iechyd a chyfoeth Cymru.”

Cefnogir prosiect Welsh Brew gan Bartneriaeth Gwyddoniaeth Iechyd Academaidd De-ddwyrain Cymru ac Ysgoloriaeth Sgiliau’r Economi Wybodaeth (KESS2) a ariennir gan Gyllid Cymdeithasol Ewropaidd (ESF) drwy Lywodraeth Cymru. Eu nod yw cysylltu cwmnïau ag arbenigedd academaidd er mwyn datblygu cynhyrchion newydd.

Mae’n dilyn lansiad llwyddiannus cwrw mêl yn 2017, pan ymunodd Caerdydd â Bragdy BangOn Pen-y-Bont.

Derbyniodd Pharmabees, sy’n brosiect i greu campws cyfeillgar i wenyn, y Wobr Cynaladwyedd yn Guardian University Awards 2017. Hefyd, mae’n cefnogi hyfforddiant Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) ar draws dinas Caerdydd.

Rhannu’r stori hon

Yr Ysgol yw un o ysgolion fferylliaeth gorau'r DU ac mae gennym enw da yn rhyngwladol am ansawdd ein hymchwil.