Ewch i’r prif gynnwys

Gobaith newydd i'r mamal sydd fwyaf dan fygythiad yn y byd ar ôl i'w hanes genetig gael ei mapio

7 Tachwedd 2018

Image of a northern white rhino

Mae dadansoddiad newydd o boblogaethau rhinoserosiaid gwyn y gogledd, sydd mewn perygl enbyd, yn awgrymu y gellid achub rhinoseros gwyn y gogledd rhag diflannu, gan ddefnyddio genynnau ei gefnder o'r de.

Wrth ddadansoddi samplau genetig o 232 o rinoserosiaid, er i rinoserosiaid gwyn y gogledd a'r de wahanu filiwn o flynyddoedd yn ôl, gwelodd ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Venda fod poblogaethau'r rhywogaethau hyn wedi rhannu genynnau o bryd i'w gilydd yn ystod cyfnodau oer a sych pan ehangodd glaswelltiroedd Affrica, mor ddiweddar â 14,000 o flynyddoedd yn ôl.

Dywedodd Dr Isa-Rita Russo o Brifysgol Caerdydd: "Drwy edrych ar hanes poblogaeth y rinoserosiaid gwyn rydym wedi gallu gweld y bu cysylltiad rhwng poblogaethau'r gogledd a'r de drwy gydol hanes.

"Mae hwn yn ddarganfyddiad cyffrous! Mae prawf genetig o gysylltiad rhwng y poblogaethau'n awgrymu y gellid achub rhinoseros gwyn y gogledd gan ddefnyddio genynnau rhinoseros gwyn y de i greu embryonau, ond byddai angen casglu rhagor o ddata i gadarnhau hyn."

Mae dosbarthiad y rhinoseros gwyn ar draws Affrica wedi'i rannu'n boblogaethau yn y gogledd a'r de. Dirywiodd poblogaeth y de i'w ffigur isaf erioed ar droad y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ond cododd y ffigur hwn unwaith eto nes i'r rhywogaeth ddod yn fwy niferus nag unrhyw rinoseros arall yn y byd. Roedd poblogaeth y gogledd, ar y llaw arall, yn gyffredin yn ystod llawer o'r ugeinfed ganrif, ond bu dirywiad cyflym ers y 1970au, gan adael dim ond dau rinoseros sy'n hŷn na'r oedran atgenhedlu.

Canfu'r tîm fod y dirywiad yn y boblogaeth yn wahanol iawn yn y gogledd a'r de. Bu dirywiad ym mhoblogaeth rhinoseros gwyn y gogledd tua 1,370 o flynyddoedd yn ôl, sy'n cyd-fynd ag ymfudiad y Bantu, a dirywiodd niferoedd rhinoseros gwyn y de yn ystod y cyfnod trefedigaethol, a ddechreuodd 400 mlynedd yn ôl.

Dywedodd yr Athro Yoshan Moodley, o Brifysgol Venda: "Yn ôl pob golwg mae amrywiaeth genetig isel yn gyffredin yn hanes y rhinoseros gwyn, oherwydd mae ein canlyniadau'n dangos bod y rhywogaeth wedi wynebu sawl dirywiad yn ei phoblogaeth o ganlyniad i'r hinsawdd a dynol ryw, a fyddai wedi lleihau a chywasgu amrywiaeth genetig yn y gorffennol.

"Dyma un o'r ychydig anifeiliaid mawr wnaeth oroesi'r oes iâ ddiwethaf, ac yn ôl pob golwg mae'r pwysau ychwanegol gan ddynol ryw ar rywogaeth sydd eisoes â gwendidau genetig wedi gwthio'r rhinoseros gwyn gam yn nes at ddiflannu."

Rhannu’r stori hon

Mae gan yr Ysgol enw da ar lefel ryngwladol am ei haddysgu a’i hymchwil, ac mae’n cynnig rhai o’r cwricwla biowyddorau gorau yn y DU sy’n cael ei arwain gan ymchwil