Ewch i’r prif gynnwys

Cymrodoriaethau Addysgu Cenedlaethol 2018

12 Medi 2018

Emmajane Milton

Mae academydd blaenllaw o Brifysgol Caerdydd sydd wedi gwneud cyfraniad aruthrol ym maes addysg wedi’i dewis ar gyfer gwobr genedlaethol ac uchel ei pharch i gydnabod ei gwaith sy’n canolbwyntio ar ddysgu ac addysgu.

Mae Emmajane Milton, darllenydd a chyd-gyfarwyddwr y radd Meistr mewn Ymarfer Addysgol (MEP) yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, wedi derbyn Cymrodoriaeth Addysgu Genedlaethol gan yr Academi Addysg Uwch.

Mae diddordebau ymchwil Emmajane yn canolbwyntio ar ddysgu proffesiynol a mentora addysgol, ac mae wedi bod mewn ystod eang o rolau arwain uwch ym maes academaidd, datblygu polisïau a'r sector ysgolion statudol. Ar ôl pontio'n llwyddiannus i’r byd academaidd, mae hi wedi dangos y gall arwain portffolio addysgol sylweddol yn llwyddiannus, a chynnal hynny. Chwaraeodd rôl allweddol wrth ddatblygu ac arwain y radd Meistr mewn Ymarfer Addysgol (MEB), sy'n rhaglen gradd meistr a ariennir gan Lywodraeth Cymru, ar gyfer athrawon ar draws Cymru sydd newydd gymhwyso.

Meddai ei chyd-gyfarwyddwr, Dr Caroline Daly o Sefydliad Addysg Coleg Prifysgol Llundain: “Mae Emmajane yn esiampl ragorol - mae’n annog cydweithwyr i ganolbwyntio’n ddiflino ar addysg myfyrwyr a’u lles.”

Meddai Fran Jordan, sy’n bennaeth ysgol gynradd a raddiodd o’r rhaglen MEP yn ddiweddar: “Ychydig iawn o bobl sy’n dylanwadu ar lywio dyfodol addysg, ond sydd hefyd yn ymroddedig i helpu pobl ar lefel unigol - mae hyn yn crynhoi Emmajane i’r dim.”

Mae Emmajane hefyd wedi arwain datblygiadau dysgu ac addysgu ar ran staff academaidd Prifysgol Caerdydd, gan gefnogi proses ddysgu a datblygu cymheiriaid sydd, yn eu tro, yn addysgu a meithrin dysgwyr sy'n fyfyrwyr.

Dywedodd Emmajane: “Pleser o’r mwyaf yw ennill y wobr hon. Mae dysgu ac addysgu yn faes anodd ond hanfodol bwysig. Nid oes amheuaeth y gall gael effaith drawsnewidiol.

“Ni allwn fod wedi cyflawni hyn heb fy nghydweithwyr ar y rhaglen MEP a’r myfyrwyr gwych ac ymroddedig yr ydym wedi gweithio gyda nhw ledled Cymru. Yn bwysicaf oll, ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl heb anogaeth a chefnogaeth ddiflino fy nheulu.

“Rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at ymgymryd â rhagor o gyfleoedd dysgu ac addysgu cyffrous a heriol, yn ogystal â pharhau i weithio gyda myfyrwyr a chydweithwyr er mwyn gwella profiadau dysgu’r myfyrwyr ymhellach.”

Bydd Emmajane yn casglu ei gwobr yn Seremoni Wobrwyo Rhagoriaeth Addysgu y DU ar 7 Tachwedd.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn ganolfan a gydnabyddir yn rhyngwladol ar gyfer addysgu ac ymchwil o ansawdd uchel.