Ewch i’r prif gynnwys

Y Cymry'n Feistri mewn Ymarfer Addysgol

12 Gorffennaf 2016

Teacher

Bydd rhaglen ôl-raddedig arloesol ar gyfer athrawon newydd gymhwyso yn dathlu ei graddedigion cyntaf yr wythnos hon (13 Gorffennaf). Bydd 198 o athrawon yn cael eu gradd Meistr.

Yn ystod y tair blynedd diwethaf ers cymhwyso i addysgu, mae'r graddedigion wedi bod yn ymgymryd â gweithgareddau heriol mewn ystafelloedd dosbarth er mwyn datblygu'n broffesiynol a sicrhau rhagoriaeth ymhlith y gweithlu addysgu yng Nghymru.

Lansiwyd y rhaglen yn 2013 ac mae'n cael ei chyflwyno'n ddwyieithog gan gynghrair o brifysgolion (Bangor, Aberystwyth, Caerdydd a Sefydliad Addysg, Coleg Prifysgol Llundain). Mae wedi'i hariannu gan Lywodraeth Cymru yn rhan o ymrwymiad i wella ansawdd addysgu a'r deilliannau i ddisgyblion.

Mae'r athrawon sydd wedi cymryd rhan wedi'u cefnogi drwy gydol y rhaglen gan gyfuniad arloesol o diwtoriaid academaidd a mentoriaid allanol o'r proffesiwn addysgu. Maent wedi cynnal cyfres o ymchwiliadau bychain i feysydd craidd addysgu, gan gynnwys llythrennedd, rhifedd a lleihau effaith tlodi ar gyrhaeddiad. Mae'r seremoni raddio yn cydnabod sgiliau a nodweddion bron i 200 o athrawon-ymchwilwyr sydd mewn sefyllfa i ddatblygu ymarfer arloesol er mwyn gwella addysg disgyblion ac ansawdd yr addysgu mewn ysgolion yng Nghymru.

I gydnabod safon uchel yr ymchwil a gynhaliwyd gan yr athrawon a gymerodd ran yn y rhaglen, mae Cymdeithas Ymchwil Addysg Prydain (BERA) ac Addysg WISERD (rhan o Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru) wedi dyfarnu gwobr ar gyfer 'Gwobr Ymchwiliad Rhagorol gan Athro/Athrawes'. Yr enillydd eleni yw Sarah Brian am ei gwaith yn datblygu dulliau gwella sillafu disgyblion ysgolion cynradd.

Disgwylir i 550 yn rhagor o athrawon raddio yn ystod y ddwy flynedd nesaf. Bydd hyn yn cael effaith ar ysgolion yn 22 awdurdod lleol Cymru ac yn cynnig manteision i ddisgyblion, athrawon ac ysgolion.

Meddai'r Athro Amanda Coffey, Pennaeth Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol:

"Rydym yn falch iawn o fod yn arwain y rhaglen arloesol hon. Mae'r rhaglen yn cydnabod pwysigrwydd y broses bontio i athrawon newydd gymhwyso, a pha mor anodd ydyw, er mwyn iddynt fod yn arweinwyr hyderus yn yr ystafell ddosbarth. "Drwy raglen ymarferol sy'n seiliedig ar ymchwil, rydym yn eu galluogi i wella arferion addysgu a chodi safonau addysgol ar draws ysgolion yng Nghymru."

Yn rhan o seremonïau graddio'r Brifysgol a gynhelir drwy gydol yr wythnos, bydd 6,500 o israddedigion ac ôl-raddedigion yn graddio ar ôl cwblhau rhaglenni ledled y Brifysgol.

Yn ystod yr wythnos, bydd nifer o unigolion dylanwadol ac uchel eu parch yn cael Cymrodoriaethau er Anrhydedd gan y Brifysgol. Mae'r rhain yn cynnwys yr awdures Sarah Waters, y dyfarnwr rygbi Nigel Owens, y Capten Hannah Winterbourne, y milwr trawsrywiol uchaf ei statws ym Myddin Prydain, a'r Athro y Fonesig Teresa Rees, cyn-Ddirprwy Is-Ganghellor y Brifysgol a chyn-Gomisiynydd Cyfle Cyfartal Cymru.