Ewch i’r prif gynnwys

Ras i'r gwaelod

30 Ebrill 2018

Woman using sewing machine

Bydd academyddion, ymgyrchwyr ac ymarferwyr diwydiant yn mynd ati i adolygu'n feirniadol y twf economaidd a chyfleoedd cyflogaeth a ddaw yn sgil cynhyrchu byd-eang yn 31ain Cynhadledd yr Uned Ymchwil Cyflogaeth ym Mhrifysgol Caerdydd ar 10 ac 11 Mai 2018.

Bydd y rhaglen deuddydd, a gynhelir gan Ysgol Busnes Caerdydd, yn ystyried yr heriau cynyddol sy’n codi yn sgil ffurfiau gwaith camfanteisiol a llafur gorfodol ar y Diwrnod Cyntaf, cyn symud ymlaen i adolygu'r cysylltiadau cyflogaeth mewn cadwyni cyflenwi byd-eang ar yr Ail Ddiwrnod.

Cysylltiadau pŵer anghymesur

Er yr amcangyfrifir bod 80% o fasnach y byd yn pasio trwy gadwyni cyflenwi, gan greu tua 453 miliwn o swyddi yn y broses, mae cysylltiadau pŵer anghymesur ar draws y rhwydweithiau hyn wedi cynyddu gallu i arferion camfanteisiol fodoli.

Dywedodd Dr Jean Jenkins, Darllenydd mewn Cysylltiadau Cyflogaeth yn Ysgol Busnes Caerdydd ac un o drefnwyr y gynhadledd: “Er gwaethaf y cynnydd mewn gweithgarwch economaidd y mae diwydiannu yn gallu, ac yn, ei sicrhau, mae cystadleuaeth rhwng gwahanol lefelau o gyfalaf mewn cadwyni cyflenwi rhyngwladol yn aml yn golygu mai llafur yw’r brif ffynhonnell y gall cyflogwyr lleol arbed arni, gyda'r posibilrwydd o ddiraddio amodau gwaith...”

“Mae hyn yn hollol wir mewn sectorau llafur dwys, fel y sectorau dillad, lledr ac electroneg, er enghraifft, lle mae gweithwyr sy’n destun sawl haen o anfantais gymdeithasol ac economaidd yn cael eu tynnu mewn i gyflogaeth â thâl isel, heb fod â llawer o ddewis, os o gwbl, o ran sut a lle maent yn gweithio.”

Yr Athro Jean Jenkins Head of Management, Employment and Organisation Section, Professor of Employment Relations

Gorfodi a diffyg cydymffurfio

Mae ymdrechion i wella amodau gwaith ar draws y cadwyni cyflenwi drwy reoleiddio cyfreithiol ar lefel cenedl-wladwriaeth ac ymrwymiadau cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol gan frandiau byd-eang wedi’u canfod i fod yn ddiffygiol o ran diffyg gorfodi a diffyg cydymffurfio.

Wrth ymgysylltu â phwnc eang gwaith camfanteisiol a chysylltiadau cyflogaeth mewn cadwyni cyflenwi byd-eang, nod y gynhadledd yw dwyn ynghyd sylwadau o nifer o ddisgyblaethau gan gynnwys rheoli adnoddau dynol, cymdeithaseg gwaith a chysylltiadau diwydiannol.

Mae rhaglen o siaradwyr gwadd rhyngwladol wedi’i threfnu, gan gynnwys:

  • Yr Athro Andrew Crane o Brifysgol Caerfaddon. Crane yw Cyfarwyddwr y Ganolfan ar gyfer Busnes, Sefydliadau a Chymdeithas. Mae ei brosiect ymchwil parhaus yn ymchwilio i drechu caethwasiaeth fodern drwy arweinyddiaeth busnes ar waelod y gadwyn gyflenwi.
  • Klara Skrivankova o Anti-Slavery International. Skrivankova yw Rheolwr Rhaglen y DU ac Ewrop, ac Uwch-gynghorwr y Sector preifat ar gyfer ASI ac mae'n arbenigo mewn cynghori ar ddiwydrwydd dyladwy hawliau dynol.
  • Yr Athro Sarosh Kuruvilla o Ysgol ILR, Prifysgol Cornell, yr Unol Daleithiau. Mae Kuruvilla yn Athro Cysylltiadau Diwydiannol, Astudiaethau Asiaidd a Materion Cyhoeddus ac ar hyn o bryd mae’n cyfarwyddo’r prosiect New Conversations: Sustainable Labor Standards In Global Supply Chains ym Mhrifysgol Cornell.
  • Yr Athro Richard M. Locke o Sefydliad Watson o Faterion Rhyngwladol a Chyhoeddus ym Mhrifysgol Brown, UDA. Mae Locke yn awdurdod ar hawliau llafur rhyngwladol, economi wleidyddol gymharol, cysylltiadau cyflogaeth a chyfrifoldeb corfforaethol.

Bydd rhifyn arbennig o’r British Journal of Industrial Relations sy’n canolbwyntio ar y cysylltiad rhwng penderfyniadau yn y gadwyn gyflenwi ac amodau cyflogaeth yn ategu’r gynhadledd.

Cofrestrwch i fod yn bresennol nawr a chyfrannu at y ddadl o gwmpas gwaith camfanteisiol.

Rhannu’r stori hon

Rhagor o wybodaeth am sut yr ydym yn ymgorffori ein strategaeth gwerth cyhoeddus ar draws ein hymchwil, ein dysgu a'n llywodraethu.