Ewch i’r prif gynnwys

Deall achosion clefydau cyhyrysgerbydol

16 Chwefror 2018

Image of inflamed hip joints on x-ray

O ganlyniad i ddyfarniad gwerth £1.6m gan Ymddiriedolaeth Wellcome, bydd tîm ymchwil rhyngwladol yn ymchwilio i’r modd y mae maint, siâp a strwythur esgyrn a chymalau yn cyfrannu at ddatblygiad clefydau cyffredin sy'n gysylltiedig ag oedran fel osteoarthritis ac osteoporosis.

Anhwylderau cyhyrysgerbydol yw un o brif achosion anabledd ym mhoblogaeth y DU, sy’n heneiddio’n gynyddol, yn bennaf oherwydd poen, achosion o dorri asgwrn a chlefydau fel osteoarthritis. Mae’r gost flynyddol gyfan o amnewid cymalau a llawdriniaeth yn sgîl torri clun yn agosáu at £9.5 biliwn ac yn faich enfawr ar gymdeithas a’r GIG. Bwriedir i'r astudiaeth leihau effaith yr anhwylderau cyhyrysgerbydol cyffredin hyn drwy ddarparu sail ar gyfer gwell ffordd o ragfynegi clefydau, eu hatal a’u trin.

Bydd yr astudiaeth – a gynhelir ar y cyd rhwng ymchwilwyr o brifysgolion Bryste, Manceinion, Southampton, Aberdeen, Caerdydd a Queensland – yn defnyddio cyfuniad o sganiau a data genetig o tua 100,000 o ddynion a menywod 40-i-69-mlwydd-oed y cawsant eu recriwtio i’r astudiaeth Banc Bio’r DU.

Bydd y tîm yn archwilio sut mae maint, siâp a strwythur cluniau, pengliniau ac esgyrn cefn yn cyfrannu at dorri esgyrn, osteoarthritis a phoen cefn. Caiff y canfyddiadau hyn eu defnyddio wedyn i ddatblygu strategaethau newydd ar gyfer nodi'r rhai sydd mewn perygl, arafu datblygiad clefyd a thrin y rhai sydd â chlefyd sefydledig.

Yn ôl Dr Mason o Ysgol Biowyddorau Prifysgol Caerdydd: “Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn datgelu gyrwyr mecanyddol clefydau cyhyrysgerbydol, ac rydym wedi datblygu model 3D o asgwrn i nodi ymatebion mecanyddol mewn esgyrn. Defnyddir y model hwn i ddatgelu a oes sail fecanyddol i amrywiadau genetig sy'n arwain at dorri esgyrn, osteoarthritis a phoen cefn. Gallai deall y prosesau hyn ddatgelu ffactorau risg newydd ar gyfer clefydau pwysig hyn a gwella’r broses o dargedu o therapïau corfforol a ffarmacolegol."

Ychwanegodd yr Athro Tobias: “Mae hyd a lled Banc Bio’r DU yn ei hun, o ran nifer y rhai sy’n cymryd rhan a’r wybodaeth fanwl a gesglir, yn golygu ei fod yn adnodd unigryw i’r gymuned ymchwil ryngwladol. Bydd yr astudiaeth hon yn ein helpu i wireddu potensial o Fanc Bio’r DU ar gyfer deall achosion clefydau cyffredin a lleihau eu heffaith ar iechyd.”