Plastr clyfar ar gyfer osteoarthritis
24 Ionawr 2017
Mae tîm o Ysgol Peirianneg y Brifysgol yn gobeithio creu plastr clyfar i ganfod osteoarthritis ar bengliniau cleifion yng nghyfnod cynnar y clefyd.
Maent yn ymchwilio i'r syniad o ddefnyddio teclynnau sy'n synhwyro niwed i adain awyren i ganfod synau mewn cymalau pobl cyn i'r clefyd ddatblygu'n llawn.
Gallai plastr clyfar helpu i achub miliynau o bunnoedd sy'n cael eu gwario ar wneud ddiagnosis drwy sganiau pelydr-X ac MRI, ynghyd â gwella bywydau cleifion drwy gynnig triniaethau pwrpasol.
Mae Athritis Research UK yn amcangyfrif bod 8.75 miliwn o bobl yn y DU wedi ceisio triniaeth ar gyfer osteoarthritis.
Pan mae cymalau dynol yn datblygu osteoarthritis, maent yn gallu dechrau gwneud sŵn clecian wrth symud o ganlyniad i niwed, a elwir yn grepitws.
Yng nghyfnodau cynnar y clefyd, mae'r synau rhwbio hyn wedi eu cyfyngu i seinamleddau uwch nad oes modd eu clywed, felly mae'r ymchwilwyr yn chwilio am ffyrdd o gofnodi'r synau hyn.
Dywedodd Dr Davide Crivelli, o'r Ysgol Peirianneg, wrth BBC News: "Mae gan y syniad hwn botensial enfawr i newid ein dull o wneud diagnosis o osteoarthritis..."
Dywedodd yr Athro Cathy Holt, Cyfarwyddwr cyfleuster ymchwil biomecaneg gyhyrsgerbydol y Brifysgol, y gallai dull rhad o wneud diagnosis cynnar gynnig mantais sylweddol.
"Y ffaith allweddol yw ei fod yn rhy hwyr i'r rhan fwyaf o bobl sydd â phoen yn eu cymalau – mae ganddyn nhw'r clefyd yn barod. Ond mae'n bosibl y bydd achosion lle byddwn yn gallu ymyrryd yn gynt," meddai wrth y BBC.