Ewch i’r prif gynnwys

Hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr a pheirianwyr

9 Chwefror 2018

Female chemistry students in a lab

Dyfarnwyd £3.6 miliwn i Brifysgol Caerdydd i ddatblygu'r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr a pheirianwyr fel rhan o fuddsoddiad mawr gan Lywodraeth y DU.

Cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Busnes Greg Clark y daw'r cyllid – sy’n gyfanswm o £184 miliwn ac i’w ddyrannu dros ddwy flynedd – gan Gyngor Ymchwil y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg (EPSRC) i gefnogi hyfforddiant doethurol ledled y DU yn rhan o'u rhaglen Partneriaeth Hyfforddiant Ddoethurol (DTP).

Bydd yr arian yn cefnogi hyd at 78 o fyfyrwyr PhD a ariennir yn llawn sy'n dechrau hyfforddiant ym Mhrifysgol Caerdydd yn y blynyddoedd academaidd sy'n dechrau ym mis Hydref 2018 a mis Hydref 2019.

Gan weithio ar draws Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg, bydd y myfyrwyr yn elwa ar amgylchedd ymchwil lleol rhagorol yn ogystal â rhaglen gynhwysfawr o ymchwil a datblygu sgiliau proffesiynol.

Ar ôl cwblhau graddau PhD mae oddeutu 39 y cant o fyfyrwyr doethurol yn mynd yn ymlaen i gael eu cyflogi mewn busnes neu wasanaethau cyhoeddus, mae 39 y cant mynd ymlaen i weithio yn y byd academaidd, ac mae 22 y cant mewn hyfforddiant, neu’n gweithio mewn sectorau eraill.

Mae myfyrwyr yn mynd ar drywydd gyrfa mewn amrywiaeth eang o sectorau gan gynnwys ym meysydd deunyddiau uwch, technolegau gofal iechyd, data mawr a dadansoddi, gweithgynhyrchu ac ynni.

Yn ôl yr Athro Anwen Williams, Cyfarwyddwr Academi Ddoethurol Prifysgol Caerdydd: “Yn yr Academi Ddoethurol, rydym yn croesawu buddsoddiad parhaus gan EPSRC mewn Partneriaethau Hyfforddiant Doethurol ac yn falch o gyhoeddi bod Prifysgol Caerdydd eisoes yn hysbysebu amrywiaeth eang o brosiectau er mwyn denu grŵp amrywiol o wyddonwyr rhagorol i fanteisio ar y cyfleoedd hyn.”

Yn ôl yr Ysgrifennydd Busnes Greg Clark: “Mae Partneriaethau Hyfforddiant Doethurol yn hen law ar roi arian i brifysgolion sy'n cefnogi myfyrwyr doethurol wrth iddynt ymgymryd â gwaith ymchwil arloesol.

“Drwy ein hymrwymiad i roi £2.3m yn ychwanegol ar gyfer ymchwil a datblygu hyd at 2021/22, rydym yn sicrhau y bydd y genhedlaeth nesaf o beirianwyr a gwyddonwyr yn parhau i ffynnu o dan ein strategaeth ddiwydiannol fodern ac uchelgeisiol.”

Mae rhagor o wybodaeth am EPSRC DTPs ar gael yn http://www.caerdydd.ac.uk/study/postgraduate/funding/funding-options/research-councils/epsrc-studentships