Ewch i’r prif gynnwys

Prosiect Sepsis

23 Ionawr 2018

Peter Ghazal

Penodwyd yr Athro Peter Ghazal FMedSci i arwain Prosiect Sepsis y Brifysgol – cydweithrediad ymchwil sy’n canolbwyntio ar ddatblygu prawf i ddiagnosio sepsis yn gyflym ymysg poblogaethau sy’n agored iawn i niwed, fel babanod a phobl hen iawn.

Meddai’r Is-Ganghellor, yr Athro Colin Riordan: “Mae’n bleser gennyf groesawu’r Athro Ghazal i’r Brifysgol. Mae'n ymchwilydd rhagorol ym maes genomeg lletyol a bydd yn cynnig cyfoeth o wybodaeth a phrofiad i Brosiect Sepsis. Dyma gyfle gwych i ni yw ddod â gwyddoniaeth sylfaenol ac ymchwil glinigol ynghyd, er budd y cleifion.”

Mae sepsis yn gymhlethdod o haint sy'n bygwth bywyd ac mae’n gyfrifol am 44,000 o farwolaethau bob blwyddyn yn y DU. Gall ddatblygu o nifer o heintiau bacteriol, felly mae adnabod yr union bathogen sy’n gyfrifol yn gyflym yn parhau i fod yn dalcen caled, yn enwedig mewn babanod sydd, o bosibl, heb unrhyw arwyddion o haint, megis tymheredd uchel. Pe na chaiff sepsis ei ganfod, na’i drin gyda’r gwrthfiotigau cywir, gall achos trychinebus o golli bywyd ddigwydd ymhen oriau.

Y ffordd fwyaf dibynadwy o ddiagnosio’r haint ar hyn o bryd yw drwy ganfod y bacteria yn y gwaed, ond mae angen llawer iawn o waed i allu gwneud hyn.

Bydd ymchwilwyr y Prosiect Sepsis yn defnyddio technegau arloesol, gyda cyhymorth cyfrifiaduron, i ddatgodio signalau a gynhyrchir gan DNA a metabolaeth y cleifion. Gall y signalau hyn roi gwybod i ddoctoriaid a oes haint bacteriol yn llif y gwaed, a gall helpu i ddatblygu prawf mwy sensitif, cyflymach a manwl gywir, sy’n gofyn am un diferyn o waed yn unig.

Eglurodd yr Athro Ghazal: “Yn union fel y gall Twitter anfon neges â 140 o gymeriadau, mae ein genomau’n cynhyrchu negeseuon neu signalau byrion sy’n cyfathrebu â’r systemau imiwnedd a metabolaidd, i’w galluogi i frwydro’r haint.”

Mae ymchwil yr Athro Ghazal wedi nodi ‘trydariad’ DNA 52 cymeriad, neu neges sy’n benodol ar gyfer haint bacteriol, ond nid haint feirol.

Bydd tîm Prosiect Sepsis hefyd yn hyrwyddo rhyngweithio rhwng cleifion, ymchwilwyr a staff clinigol drwy gyfrwng y Ganolfan Cleifion Sepsis ac Ymgysylltu Cyhoeddus (SPPEC) newydd, sydd yn Adeilad Syr Geraint Evans ac sy’n ganolfan rhyngweithio a hyfforddi. Bydd yn cynnwys arddangosfeydd a wardiau sy’n efelychu uned gofal dwys newydd-enedigol (NICU), uned gofal dwys pediatrig (PICU), uned gofal dwys oedolion (ICU) ac offer mainc labordy gyda chyfryngau clyweledol.

Daw penodiad yr Athro Ghazal o dan raglen Sêr Cymru Llywodraeth Cymru, – menter i ddenu a chefnogi ymchwilwyr gwyddonol o'r radd flaenaf a'u timau i Gymru.  Mae’n ymuno â’r Ysgol Meddygaeth o Brifysgol Caeredin, lle bu'n Athro Geneteg Foleciwlaidd a Biofeddygaeth, yn gyn-bennaeth yr Adran Meddygaeth Llwybr, ac yn Gyfarwyddwr Cyswllt y Ganolfan Bioleg Synthetig a Systemau. Yn ogystal, mae’n gymrawd prif academi feddygol y DU – Academi'r Gwyddorau Meddygol.

Gyda diddordebau ymchwil sy’n ceisio deall sut mae rhwydweithiau genynau lletyol yn rheoli haint, mae astudiaethau diweddar yr Athro Ghazal wedi bod yn arloesol ym maes genomeg lletyol haint cynnar, a'r cysylltiadau rhwng y system imiwnedd a lipidau metabolaeth.

Ychwanegodd yr Athro Ghazal: “Yn sgil ei chryfder mewn systemau imiwnedd ac ymchwil draws-ddisgyblaethol, mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig yr amgylchedd perffaith ar gyfer cydlynu gwyddoniaeth a meddygaeth glinigol er mwyn mynd i'r afael â sepsis

“Yn wir, rwyf o’r farn bod dyfodol gwyddoniaeth yn datblygu i fod mor traws-ddisgyblaethol fel nad yw llawer o feysydd, erbyn hyn, yn rhai un ddisgyblaeth yn unig. Nid yw’r dull ‘un ddisgyblaeth’ a sefydlwyd dros 200 mlynedd yn ôl drwy gyfrwng cymdeithasau a’r byd academaidd yn addas at y diben, erbyn hyn. Nod Prosiect Sepsis yw datrys her feddygol anhydrin drwy ddatblygu dull gwyddoniaeth ar y cyd er mwyn gwella canlyniadau i unigolion sy'n ddifrifol wael. Yn benodol, mae’r newid ymddygiadol hwn o ran sut rydym yn gwneud gwyddoniaeth hefyd yn gallu ysgogi arloesedd a menter newydd.”

Mae Sêr Cymru yn gynllun sy’n ceisio ehangu adnoddau ymchwil yng Nghymru drwy ddenu a datblygu ymchwilwyr talentog yng Nghymru. Maw Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop yn cefnogi’r cynllun.

Rhannu’r stori hon