Ewch i’r prif gynnwys

Myfyrwyr wedi'u dewis i dîm Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad

24 Ionawr 2018

Coral Kennerley
Mae Coral Kennerley wedi’i dewis i gynrychioli Cymru yn y gystadleuaeth saethu pistol

Mae dau fyfyriwr o Brifysgol Caerdydd wedi'u dewis i ymuno a thîm Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad 2018 ar yr Arfordir Aur yn Awstralia.

Dewiswyd y myfyriwr meddygaeth, Lewis Oliva, 25 ar gyfer y sbrint seiclo a bydd Coral Kennerley, 23, sy'n astudio peirianneg fecanyddol, yn cystadlu gyda saethu pistol.

Mae hyn yn dilyn cyhoeddiad blaenorol y bydd y myfyriwr o Brifysgol Caerdydd, Dean Bale, yn cynrychioli Lloegr yn saethu reiffl yn y Gemau.

Mae Lewis, o Devauden, Sir Fynwy, wedi cael blwyddyn lwyddiannus iawn, gan ddod yn bencampwr cenedlaethol Keirin Prydain, a chystadlu yn erbyn rhai o seiclwyr gorau'r byd yng nghyfres Cwpan y Byd Tissiot UCI, lle'r enillodd wobr arian yn Milton, Canada yn y Keirin.

Hefyd sicrhaodd le yn nhîm Prydain Fawr ym Mhencampwriaethau Seiclo Trac y Byd, gan gystadlu am y tro cyntaf ym mhencampwriaeth y byd yn Hong Kong ym mis Ebrill.

Lewis Oliva
Bydd Lewis Oliva yn cystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad am y trydydd tro

Roedd Lewis yn y newyddion yn gynt y mis hwn pan gafodd ei esgidiau seiclo arbenigol eu dwyn o gar ei bartner y tu allan i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd. Yn ffodus, yn dilyn apêl gyhoeddus, canfuwyd yr esgidiau wedi'u taflu i lôn gefn, a chawsant eu dychwelyd iddo.

Gwyliwch sut mae Lewis Oliva yn ymdopi â chystadlu ar y lefel uchaf ochr yn ochr ag astudio gradd Meddygaeth

https://youtu.be/6dZsY8FW5Wc

Dywedodd Lewis: "Hwn fydd y trydydd tro i mi fynd i Gemau’r Gymanwlad, ac yn amlwg mae'n gyffro mawr cael fy enwi'n aelod o'r tîm fydd yn teithio i Awstralia.

"Mae wedi bod yn ffocws mawr i'r tîm seiclo a fi, a'r hyn sydd wedi'i wneud yn arbennig y tro hwn yw'r gefnogaeth wych rwyf i wedi'i derbyn gan Brifysgol Caerdydd - yn benodol y rhaglen perfformiad uchel a'r ysgol meddygaeth. Mae'r hyfforddi wedi mynd yn dda iawn ac rwyf i'n edrych ymlaen at benllanw'r gwaith ymhen rhai misoedd.

"Ers cofrestru ym Mhrifysgol Caerdydd rwyf i wedi bod yn ddigon ffodus i ddod yn bencampwr Prydain a pherfformio'n rheolaidd ar lwyfan y byd, gan ennill nifer o fedalau yng Nghwpan y Byd. Mae Gemau'r Gymanwlad yn gyfle gwych i orffen y tymor ar nodyn uchel. Mae bob amser yn deimlad arbennig cael gwisgo crys Cymru, moment o falchder i unrhyw Gymro."

Mae gan ei gyd-fyfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd, Coral, o Aberystwyth yng Ngheredigion, deimlad o fusnes anorffenedig ar ôl i salwch effeithio ar ei pherfformiad yng Ngemau'r Gymanwlad yn Glasgow bedair blynedd yn ôl.

Dywedodd Coral: "Rwy'n edrych ymlaen at gystadlu dros Gymru yng Ngemau'r Gymanwlad am yr ail dro.

"Ar ôl cael fy nharo gan dwymyn y chwarennau ddau fis cyn Gemau'r Gymanwlad yn Glasgow yn 2014, rwy'n benderfynol o wella fy mherfformiad yn yr Arfordir Aur ym mis Ebrill.

"Mae cynrychioli Cymru mewn cystadleuaeth mor fawr yn anrhydedd. Bydd yn wych gweld ein cenedl fach yn dod at ei gilydd fel tîm ar ochr draw'r byd."

Coral, sydd wedi'i dewis i gynrychioli Prydain Fawr ym Mhencampwriaethau Saethu Prifysgolion y Byd ym Malaysia ym mis Mawrth, yw pencampwr menywod Cymru a Phrydain ar hyn o bryd.

Rhagor am sut mae Coral Kennerley yn llwyddo yn ei champ o’i dewis yn ogystal â’i hastudiaethau

https://youtu.be/gmkXrT14090

Dywedodd y Pennaeth Chwaraeon, Stuart Vanstone: "Mae'n wych clywed bod Lewis a Coral wedi'u dewis i fynd i'r Arfordir Aur.

"Mae gan y ddau brofiad blaenorol o gystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad, gyda Lewis yn cystadlu yn Delhi yn 2010 a Lewis a Coral ill dau'n rhan o Dîm Cymru yng ngemau Glasgow yn 2014".

Daeth y cyhoeddiad bod Coral a Lewis wedi'u dewis i Gymru yn dilyn y newyddion ym mis Rhagfyr bod Dean Bale, myfyriwr arall o Brifysgol Caerdydd, wedi'i ddewis i gynrychioli Lloegr yn saethu reiffl yng ngemau’r Arfordir Aur 2018.

Dywedodd Dean, sy'n fyfyriwr Cyfrifiadureg 20 oed o Barnstaple yn Nyfnaint: "Pan glywais i fy mod wedi fy newis i gynrychioli Lloegr yng Ngemau'r Gymanwlad am y tro cyntaf, roeddwn i wrth fy modd bod yr holl waith caled roeddwn i wedi'i wneud wrth hyfforddi wedi talu ar ei ganfed.

"Bûm i'n cystadlu ym Mhencampwriaeth Ffederasiwn Saethu'r Gymanwlad, sef y digwyddiad prawf ar gyfer Gemau'r Gymanwlad, ym mis Tachwedd, gan ddod yn bumed yn y rownd derfynol. Felly rwyf i'n eithaf hyderus y byddaf i'n cyrraedd y rownd derfynol gobeithio, a gyda'r cynllun hyfforddi sydd gen i, rwy'n gobeithio gwella ar fy mhumed safle."

Ychwanegodd y Pennaeth Chwaraeon, Stuart: "Mae'r holl fyfyrwyr wedi gallu cydbwyso eu hastudiaethau a'r amserlenni hyfforddi heriol yn y cyfnod yn arwain at ddethol.

"Does gen i ddim amheuaeth o weld yr ymroddiad a'r ymrwymiad mae Lewis, Coral a Dean yn eu dangos, y byddan nhw eu hunain a'r Brifysgol yn ymfalchïo yn eu perfformiadau. Pob lwc, byddwn ni i gyd yn gwylio ac yn gweiddi drosoch chi."

Mae'r tri athletwr yn rhan o raglen chwaraeon perfformiad uchel y Brifysgol, sy'n helpu myfyrwyr i ragori yn eu gyrfaoedd chwaraeon ac academaidd yn ystod eu hamser yng Nghaerdydd.

Mae'r rhaglen yn cynnig amrywiaeth o gefnogaeth gan gynnwys hyfforddiant cryfder a chyflyru, profi ac asesu ffitrwydd, cyswllt â seicolegwyr chwaraeon, aelodaeth am ddim o holl gyfleusterau chwaraeon y Brifysgol, cit wedi'i frandio am ddim, a gwobrau ariannol posibl.

Cynhelir Gemau'r Gymanwlad ar yr Arfordir Aur rhwng 4 a 15 Ebrill eleni.

Mae’r myfyrwyr sydd ar ein Rhaglen Perfformiad Uchel yn ffynnu

https://youtu.be/J0HMkDhTZiA