Ewch i’r prif gynnwys

Prifysgol Caerdydd i ymuno â chynllun peilot fisa myfyrwyr

20 Rhagfyr 2017

Visa CU

Mae Prifysgol Caerdydd yn un ddwy Brifysgol yng Nghymru i ymuno â chynllun peilot sy'n ceisio symleiddio'r broses i fyfyrwyr gradd Meistr rhyngwladol sydd am astudio yn y DU.

Eleni yw ail flwyddyn y cynllun peilot gyda Phrifysgolion Rhydychen, Caergrawnt, Caerfaddon a Choleg Imperial Lundain, a’i nod yw symleiddio'r broses i fyfyrwyr rhyngwladol sydd am astudio cwrs Meistr hyd at 13 mis o hyd yn y DU. Mae hefyd yn cynnig mwy o gefnogaeth i fyfyrwyr sydd am wneud cais i gael fisa gwaith ac ymgymryd â swyddi i raddedigion, drwy ganiatáu iddynt aros yn y DU am 6 mis ar ôl iddynt orffen eu cwrs.

Y prifysgolion sy’n cymryd rhan sy’n cael y cyfrifoldeb o wirio a yw’r myfyrwyr yn gymwys ai peidio. Mae hyn yn golygu bod modd i’r myfyrwyr gyflwyno llai o ddogfennau na'r hyn sydd eu hangen yn y broses bresennol, ochr yn ochr â'u ceisiadau am Fisa. Bydd ymgeiswyr nad ydynt yn bodloni rheolau mewnfudo yn cael eu gwrthod. Bydd yn ofynnol o hyd i bob myfyriwr ymgymryd â gwiriadau diogelwch a hunaniaeth y Swyddfa Gartref.

Prifysgol Caerdydd yw un o'r 23 o brifysgolion ychwanegol i elwa ar y cynllun peilot, ynghyd â Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, dwy brifysgol yn yr Alban, un yng Ngoledd Iwerddon a phrifysgolion ledled Lloegr.

“Cartref i dros 7,000 o fyfyrwyr rhyngwladol”

Yn ôl Brandon Lewis, y Gweinidog Mewnfudo: “Rwyf yn falch iawn o gyhoeddi bod y cynllun peilot hwn am gael ei ehangu. Mae’n rhan o'n hymdrechion parhaus i wneud yn siŵr bod ein sefydliadau rhagorol yn parhau i fod yn hynod gystadleuol.

“Mae’r DU yn parhau i fod yr ail gyrchfan fwyaf poblogaidd i fyfyrwyr rhyngwladol, ac mae 24% yn rhagor wedi dod i astudio yn ein prifysgolion ers 2010.

“Mae hyn yn arwydd clir bod croeso i fyfyrwyr addas yma, a bod dim cyfyngiad ar y nifer sy’n gallu dod i astudio yn y DU.”

Yn ôl yr Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd: “Rydym yn croesawu'r cyfle i gymryd rhan yng nghynllun peilot Fisa Haen 4, sydd wedi’i ehangu. Mae Prifysgol Caerdydd yn gartref i dros 7,000 o fyfyrwyr rhyngwladol o dros 100 o wledydd, ac rydym wedi gweld dros ein hunain eu heffaith gadarnhaol ar ein cymuned yn ogystal ag ar economi Caerdydd a Chymru...”

“Rydym yn edrych ymlaen at gymryd rhan yn y cynllun peilot Fisa Haen 4 ai’i werthusiad er mwyn rhoi cyfle haeddiannol i fyfyrwyr rhyngwladol a chryfhau ein partneriaethau byd-eang.”

Yr Athro Colin Riordan Is-Ganghellor, Prifysgol Caerdydd

Yn ôl ystadegau diweddaraf y Swyddfa Gartref, mae nifer y myfyrwyr sy'n gwneud cais am Fisa wedi cynyddu 8% dros y flwyddyn ddiwethaf, a bu cynnydd o 9% yn nifer y myfyrwyr sy'n gwneud cais i brifysgolion Grŵp Russell.

Bydd 23 o brifysgolion ychwanegol yn gallu rhoi’r cynllun peilot ar waith ar gyfer y myfyrwyr y byddant yn eu derbyn yn 2018/19. Dewiswyd y prifysgolion hyn gan fod eu cyfraddau gwrthod Fisa yn gyson ymhlith yr isaf yn eu hardal neu eu rhanbarth.

Rhannu’r stori hon

Mae ein cymuned fyd-eang, ein henw da a’n partneriaethau wrth galon ein hunaniaeth.