Ewch i’r prif gynnwys

Gwobr Pen-blwydd y Frenhines i Uned Ymchwil Golwg Syndrom Down Prifysgol Caerdydd

30 Tachwedd 2017

Image of Head of the clinic performing eye test on patient

Mae Uned Ymchwil Golwg Syndrom Down Prifysgol Caerdydd wedi ennill gwobr academaidd fwyaf clodfawr y DU – gwobr Pen-blwydd y Frenhines – am ei hymchwil arloesol a’i thriniaethau ar gyfer problemau golwg mewn plant sydd â syndrom Down.

Dyfernir y gwobrau bob dwy flynedd i brifysgolion a cholegau ledled y Deyrnas Unedig am waith o ragoriaeth arbennig. Dyma'r tro cyntaf i'r uned optometreg gael y wobr.

Wrth sôn am y wobr, dywedodd Dr Maggie Woodhouse, Pennaeth yr Uned Ymchwil Golwg Syndrom Down: "Mae cael y gydnabyddiaeth yma yn anrhydedd aruthrol. Mae'n adlewyrchu ymroddiad ac ymchwil unigryw ein staff sy'n gwbl ymrwymedig i deilwra a gwella gofal llygaid i blant â syndrom Down. Mae gallu gwella eu cyfleoedd dysgu ac addysgol, yn ogystal â rhoi’r cyfle iddyn nhw ffynnu a gwireddu eu potensial llawn, yn brofiad gwerth chweil."

Image of a patient in his specs

Mae plant sydd â syndrom Down yn fwy tebygol o ddioddef anhwylderau llygaid a golwg na phlant sy’n datblygu’n arferol, mae’n rhaid iddynt gael profion golwg rheolaidd, ac maent yn fwy tebygol o angen sbectol a chymhorthion yn y dosbarth ar gyfer diffygion golwg. Cyn sefydlu'r Uned Ymchwil Golwg Syndrom Down, prin iawn oedd y ddealltwriaeth o’r problemau golwg penodol hyn. Roeddent yn cael eu camddehongli ac nid oeddent yn cael eu canfod. O ganlyniad, sefydlwyd yr Uned, mewn ymateb uniongyrchol i'r diffyg ymchwil yn y maes. Mae bellach ar flaen y gad o ran ymchwil yn y maes.

Mae darganfyddiadau’r Uned, sy’n newid bywydau, megis y broses sy’n cywiro gwallau mewn methiannau babanod nodweddiadol yn y rheiny sydd â syndrom Down, a manteision sbectol ddeuffocal i’w cyflyrau, wedi ffurfio sail uniongyrchol i ganllawiau cenedlaethol a rhyngwladol ar ofalu am eu golwg. Mae’r ymchwil hefyd wedi llywio hyfforddiant ar gyfer optometryddion ac wedi newid y ffordd y mae’r rhai sy’n gweithio gyda phobl ifanc sydd â syndrom Down, ac sy’n eu haddysgu, yn sefydlu’r amgylchedd dysgu.

Dysgwch fwy am yr Uned Ymchwil Golwg Syndrom Down.

Dim ond ambell enghraifft o waith arloesol yr Uned yw'r newidiadau i'r profion golwg, y dulliau addysgu a’r adnoddau ar gyfer plant sydd â syndrom Down.

Ers 1992, mae'r uned wedi ffurfio unig garfan hydredol y byd o bobl ifanc sydd â syndrom Down. Ar hyn o bryd, mae dros 250 o blant ac oedolion ifanc o bob rhan o’r DU yn cymryd rhan yn ei hastudiaethau, yn amrywio o 1 i 25 mlwydd oed. Mae golwg a datblygiadau cyffredinol pob unigolyn wedi’i fonitro gan yr Uned dros amser, gan wneud y grŵp hwn a’i ddata yn unigryw; dyma’r gronfa ddata mwyaf o'i math yn y byd.

"Gyda chymorth grŵp mawr a brwdfrydig o deuluoedd, mae ein huned ymchwil wedi cael y cyfle i wella dealltwriaeth o ddatblygiad golwg plant sydd â syndrom Down, newid syniadau am y ffordd y caiff eu problemau golwg eu gweld a’u trin, a chwyldroi’r gofal llygaid sydd ar gael iddynt ar draws y Deyrnas Unedig (DU) a thramor."

Dr Margaret Woodhouse Senior Lecturer

Hefyd, yr Uned yw’r unig ganolfan addysgu optometreg yn y DU sy'n cynnwys cwrs pwrpasol uniongyrchol mewn optometreg anghenion arbennig yn rhan o'r cwricwlwm israddedig.

Dros y blynyddoedd nesaf, mae aelodau o'r Uned yn bwriadu troi eu sylw at weithredu gwasanaeth gofal llygaid arbennig mewn ysgolion yng Nghymru, drwy ddarparu’r hyfforddiant ar gyfer yr optometryddion a fydd yn cymryd rhan. Maent hefyd, drwy gydweithio a phartneriaid, yn ceisio sefydlu gwasanaeth tebyg yn nhair gwlad arall y DU.

Dywedodd Carol Boys, Prif Weithredwr, y Gymdeithas Syndrom Down: "Rydw i wrth fy modd i glywed bod yr Uned Ymchwil Golwg Syndrom Down wedi cael cydnabyddiaeth drwy'r wobr hon am eu gwaith arloesol. Mae Maggie a'i chydweithwyr wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau llawer iawn o bobl gyda syndrom Down, yn bersonol, drwy eu hymchwil, a thrwy eu rhaglen addysgu hefyd."

Rhannu’r stori hon

Casglodd astudiaeth dros 22 o flynyddoedd gan ein hymchwilwyr dystiolaeth am olwg plant a phobl ifanc â syndrom Down gan lunio argymhellion a fabwysiadwyd yn y DU a thramor.