Ewch i’r prif gynnwys

Gwobr Pen-blwydd y Frenhines

26 Chwefror 2016

Prince Charles, Camilla, VC, Mike Owen, QAP

Cyfleuster ymchwil iechyd meddwl mwyaf blaenllaw  yn ennill gwobr academaidd o fri mwyaf y DU mewn seremoni ym Mhalas Buckingham

Mae cyfleuster rhagorol Prifysgol Caerdydd ym maes ymchwil iechyd meddwl, wedi ennill gwobr academaidd fwyaf mawreddog y DU - Gwobr Pen-blwydd y Frenhines.

Ar ran Canolfan MRC ar gyfer Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig, casglodd yr Athro Syr Michael Owen y wobr mewn seremoni ym Mhalas Buckingham gynhaliwyd ar ddydd Iau.

Cafodd y canolfan ei chydnabod am ganfod "gwybodaeth drawsnewidiol am achosion salwch meddwl, ei ddiagnosis a'r driniaeth ar ei gyfer."

Mae'r Frenhines yn dyfarnu'r wobr bob dwy flynedd i gydnabod sefydliad academaidd neu alwedigaethol, ac mae'n rhan o system anrhydeddau cenedlaethol y DU.

Wrth siarad am y wobr, dywedodd yr Athro Syr Michael Owen: "Rwy'n hynod falch o holl staff y Ganolfan am ennill y wobr hon. Mae'n adlewyrchiad o gyflawniadau anhygoel a alluogwyd gan dîm rhagorol o staff gwyddonol, technegol a gweinyddol sydd ar flaen y gad ym maes ymchwil iechyd meddwl. 

"Mae eu hymdrechion wedi llwyddo i daflu goleuni ar rai o gorneli tywyllaf salwch meddwl a'n rhoi mewn sefyllfa gref i wneud cynnydd pellach fydd yn rhoi manteision sylweddol i gleifion. 

"Yn ystod y 5-10 mlynedd nesaf, bydd y Ganolfan yn canolbwyntio ar roi ein canfyddiadau genetig ar waith er mwyn deall mecanweithiau clefydau'n well, datblygu dulliau diagnostig a thriniaethau gwell, yn ogystal ag ennill ein plwyf fel canolfan niwrowyddoniaeth flaenllaw sy'n troi canfyddiadau yn gamau. 

"Mae gwyddonwyr y Ganolfan hefyd yn defnyddio canfyddiadau genetig yn gynyddol mewn lleoliadau epidemiolegol. Eu nod yw astudio effaith genynnau ar lefel y boblogaeth, rhagfynegi a chynnal diagnosis gwell, yn ogystal â deall sut mae ffactorau amgylcheddol a chymdeithasol yn rhyngweithio â thueddiadau genetig i achosi salwch meddwl. 

"Rwy'n hynod ddiolchgar i'r Cyngor Ymchwil Feddygol am gefnogi ein hymchwil yn barhaus dros nifer o flynyddoedd, yn ogystal ag Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a llu o gyrff ariannu eraill. Rwy'n ddiolchgar dros ben i Brifysgol Caerdydd hefyd am eu cefnogaeth gref ac am ein henwebu ar gyfer y wobr hon."

O dan arweiniad yr Athro Syr Michael Owen, y Cyfarwyddwr, mae'r ganolfan yn dod â chymuned fyd-eang o ymchwilwyr blaenllaw ynghyd i ymchwilio i achosion nifer o anhwylderau seiciatrig a niwro-ddirywiol difrifol.

Nod eu gwaith yw gwella dealltwriaeth o achosion y clefydau hyn er mwyn datblygu dulliau diagnostig newydd ac amlygu targedau newydd ar gyfer triniaeth. 

Ers lansio'r ymchwil yn 2009, mae wedi cymryd camau breision o ran canfod seiliau genetig amrywiaeth o glefydau gan gynnwys clefyd Alzheimer a sgitsoffrenia, anhwylder deubegwn ac ADHD.

Mae darganfyddiadau nodedig y Ganolfan yn cynnwys amlygu'r cysylltiad genetig rhwng anabledd deallusol, awtistiaeth, ADHD a sgitsoffrenia; darganfod y ffactorau genetig cyntaf a allai achosi sgitsoffrenia, anhwylder deubegwn ac ADHD; a darganfod y genynnau risg newydd cyntaf ers dros 17 mlynedd ar gyfer clefyd Alzheimer. 

Mae nifer o fecanweithiau newydd ar gyfer trin clefydau wedi bod yn rhan o'r gwaith hwn. Erbyn hyn, mae gwyddonwyr y Ganolfan yn defnyddio amrywiaeth o dechnegau modern sy'n troi'r canfyddiadau newydd hyn yn  ddulliau newydd ar gyfer trin ac atal. 

Yn ogystal â'u darganfyddiadau genetig sylfaenol, mae gwaith ymchwilwyr y Ganolfan wedi dylanwadu'n uniongyrchol ar bolisïau ac ymarfer. 

Er enghraifft, mae eu hymchwil wedi rhoi tystiolaeth gref bod canabis yn un o'r ffactorau risg prin y gellir eu haddasu er mwyn atal sgitsoffrenia; mae wedi arwain at raglen ryngweithiol newydd i helpu pobl sy'n dioddef anhwylder deubegwn reoli eu cyflwr; mae hefyd wedi gweddnewid y ffordd y mae pobl ifanc ddigartref yng Nghymru yn cael eu hasesu ar gyfer anhwylderau iechyd meddwl.

Meddai'r Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd: "Yn y chwe blynedd ers ei sefydlu, mae'r Ganolfan wedi taflu goleuni ar rai o'r mathau mwyaf anhydrin o salwch iechyd meddwl. Mae'r tîm, sydd o fri rhyngwladol, wedi troi canfyddiadau arloesol yn fanteision i gleifion a helpu i atgyfnerthu statws y Brifysgol fel un o ganolfannau mwyaf blaenllaw'r byd ym maes iechyd meddwl. Mae'r wobr hon yn adlewyrchiad haeddiannol o'r llwyddiant hwn."

Croesawyd y gwobr gan y gymuned academaidd a gwleidyddol ehangach. 

Yn ôl Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru: "Hoffwn longyfarch Prifysgol Caerdydd am ennill gwobr hynod glodfawr Pen-blwydd y Frenhines. Mae'n gamp gwirioneddol wych ac yn gydnabyddiaeth glir o'r gwaith eithriadol a wneir yn y Brifysgol wrth ddod o hyd i ffyrdd arloesol a blaengar o drin salwch meddwl."

Meddai'r Athro Syr John Savill, Prif Weithredwr y Cyngor Ymchwil Feddygol: "Rydym wedi gweld datblygiadau anhygoel mewn ymchwil ym maes iechyd meddwl dros y pum mlynedd ddiwethaf. Mae genynnau anhwylderau meddwl cyffredin wedi'u canfod ac rydym yn darganfod rhagor ar fyrder - mae Canolfan MRC ar gyfer Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig wedi arwain y gad yn y datblygiad enfawr hwn wrth wella ein dealltwriaeth fiolegol o anhwylderau iechyd meddwl. 

"Er enghraifft, mae'r gorgyffwrdd genetig a welwyd rhwng awtistiaeth, sgitsoffrenia ac anhwylder deubegwn, yn newid ein dealltwriaeth o'r anhwylderau hyn. Y cam nesaf fydd edrych ar effeithiau ymarferol y genynnau a'r llwybrau biolegol oherwydd bydd yr ymchwil hon yn dangos y cyfleoedd gorau ar gyfer trin yr anhwylderau iechyd meddwl treiddiol hyn."

Dywedodd Eric Lander, Llywydd a chyfarwyddwr sefydlol Broad Institute of MIT a Harvard yn Cambridge Massachusetts: "Mae tîm Prifysgol Caerdydd wedi chwarae rôl hollbwysig o ran uno'r gymuned ymchwil fyd-eang i geisio gweddnewid sut mae clefydau seiciatrig yn cael eu deall a'u trin. Gwych o beth yw gweld y wobr hon yn cydnabod eu cyflawniadau."

Mae'r Ganolfan yn cynnig amgylchedd ymchwil unigryw yng Nghymru i gynnal rhagor o ymchwil i iechyd meddwl a throi canfyddiadau'n fanteision i gleifion yn uniongyrchol. Ers ei sefydlu chwe blynedd yn ôl, mae wedi creu 182 o swyddi a denu dros £90m o fuddsoddiad. Mae hefyd wedi galluogi'r Brifysgol a Chymru i ennill eu plwyf fel arweinwyr byd-eang mewn niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl.

Y tu hwnt i ymchwil, mae'r Ganolfan yn cyflwyno rhaglenni arloesol mewn addysg israddedig ac ôl-raddedig ac mae wedi ymrwymo i gael gwared ar y stigma sy'n gysylltiedig ag anhwylderau iechyd meddwl mewn ffyrdd fydd yn ymgysylltu'n eang â'r cyhoedd. 

Ers 2000, mae'r Brifysgol wedi ennill chwe Gwobr Pen-blwydd y Frenhines am ymchwil. Mae'r meysydd o dan sylw wedi cynnwys peirianneg geo-amgylcheddol, atal trais, geneteg meddygol a diagnosis clinigol.

Sefydlwyd Gwobr Pen-blwydd y Frenhines ym 1993 gyda sêl bendith y Frenhines a chefnogaeth pob plaid yn y Senedd.

Rhannu’r stori hon