Ewch i’r prif gynnwys

Adeilad Ymchwil Cardiofasgwlaidd Syr Geraint Evans

24 Tachwedd 2017

Image of the outside of Sir Geraint Evans Building

Mae Sefydliad Ymchwil y Galon Cymru Syr Geraint Evans yn ymestyn ei waith ym maes ymchwil y galon – ymchwil sydd eisoes yn arloesol – i gwmpasu materion iechyd ehangach sy’n gysylltiedig â chlefyd cardiofasgwlaidd, yn dilyn ymgynghoriad helaeth ag aelodau o deulu’r diweddar Syr Geraint Evans, ac academyddion blaenllaw ym Mhrifysgol Caerdydd.

Mae clefydau cardiofasgwlaidd (CVD) yn derm cyffredinol sy'n disgrifio'r holl glefydau sy’n gysylltiedig â chlefydau'r galon a chylchrediad y gwaed. Mae'n cynnwys popeth o gyflyrau sy’n cael eu diagnosiso adeg geni, neu rhai a etifeddwyd, i gyflyrau datblygedig megis clefyd coronaidd y galon, ffibriliadau rhedwelïol, methiant y galon a strôc.

Mae’r hyn sy’n bennaf gyfrifol am achosi farwolaeth ac anabledd yn y DU ac yng Nghymru – clefyd cardiofasgwlaidd – â'i gyflyrau cysylltiedig, yn gyfrifol am dros 27% o'r holl farwolaethau, neu dros 9,000 o farwolaethau bob blwyddyn – mae hynny'n gyfartaledd o 25 o bobl bob dydd.

I gefnogi’r ymchwil estynedig newydd i glefyd cardiofasgwlaidd, bydd enw’r adeilad hefyd yn newid i “Adeilad Ymchwil Cardiofasgwlaidd Syr Geraint Evans” i adlewyrchu’r datblygiad hollbwysig hwn.

Cafodd y Sefydliad Ymchwil y Galon presennol ei ddyrchafu gan y canwr opera byd enwog o Gymro, Syr Geraint Evans. Ar ôl dechrau’r ymgyrch i godi arian ym 1991, fel Llywydd, yn anffodus bu farw o drawiad ar y galon ym 1992, ond cymerodd ei wraig – yr Arglwyddes Brenda – yr awennau.

Er cof amdano, mabwysiadodd yr elusen enw Syr Geraint i barhau i godi arian fel bod canolfan ragoriaeth ym maes ymchwil y galon – y cyntaf o'i math yn y DU – yn cael ei hadeiladu ym Mhrifysgol Caerdydd ac er mwyn cynorthwyo ymchwil hanfodol ynghylch un o’r achosion marwolaeth pennaf yng Nghymru.

Cefnogwyd y sefydliad gan y Tywysog Siarl, nifer o ffigurau blaenllaw o bob rhan o fywyd, a rhodd o £500,000 gan Sefydliad Prydeinig y galon. Fodd bynnag, yn y bôn, cafodd y ganolfan ragoriaeth hon ei hariannu a’i chynnig yn rhodd i Brifysgol o ganlyniad i haelioni a chefnogaeth aruthrol pobl Cymru wrth ariannu ymchwil i glefyd y galon, ac er cof am Syr Geraint Evans.

Yn ôl yr Athro Gary Baxter, Dirprwy Is-Ganghellor Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd ym Mhrifysgol Caerdydd: “Bydd yr adeilad yn parhau i fod yn amgylchedd ymchwil weithredol, gyda ffocws clir ar ymchwil, sy'n canolbwyntio ar gleifion, y gellir ei drosglwyddo o ‘fainc y labordy i erchwyn gwely cleifion’ cyn gynted â phosibl.

“Rydym yn teimlo bod ail-enwi’r adeilad yn ‘Adeilad Ymchwil Cardiofasgwlaidd Syr Geraint Evans’ yn gam cadarnhaol ymlaen er mwyn dal yn gyfwastad â’r heriau iechyd sy'n ein hwynebu nid yn unig ym Nghymru ond hefyd ar draws y DU, a ledled y byd. Mae clefyd cardiofasgwlaidd yn cwmpasu ehangder yr ymchwil fydd yn cael ei gynnal yn yr adeilad a bydd yn darparu lle mewn labordy ar gyfer y nifer o ymchwilwyr dawnus sydd gennym.

“Mae cof Syr Geraint Evans ac ethos tarddiad yr adeilad yn uchel iawn eu parch o fewn y Brifysgol, ac mae parhau â’i etifeddiaeth gydag ymchwil cardiofasgwlaidd newydd yn adlewyrchu cymaint yw ein diolch am yr arian sydd eisoes wedi’i roi...”

"Mae’r arian hwn wedi galluogi sefydlu adeilad, cyflawni ymchwil hanfodol bwysig ym maes y galon a bellach, cynnal ymchwil arloesol ynghylch clefyd cardiofasgwlaidd. Mawr obeithiwn y bydd y cyhoedd yn cefnogi’r oes newydd hon o Adeilad Ymchwil Cardiofasgwlaidd Syr Geraint Evans drwy eu haelioni, eu rhoddion a’u chymynroddion, drwy gyfrwng Cronfa Syr Geraint Evans er Ymchwil Cardiofasgwlaidd."

Yn ôl Huw Evans, mab Syr Geraint Evans: "Rydym wrth ein bodd bod enw ein tad yn dal i fod wedi’i gysylltu mor gryf ag ymchwil cardiofasgwlaidd ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae’r ymchwil hwn cyn bwysiced nawr ag yr oedd pan roddwyd yr adeilad ymchwil y galon hwn yn y lle cyntaf i Brifysgol Caerdydd – drwy garedigrwydd pobl Cymru – er mwyn ariannu ymchwil i mewn i’r hyn sy’n peri’r nifer mwyaf o farwolaethau yng Nghymru, sef clefyd y galon.

“Mae’n dwyn emosiwn, o bosibl, o wybod, pum mlynedd ar hugain ers i’n tad farw o drawiad ar y galon, y bydd yr adeilad â’r enw newydd, Adeilad Ymchwil Cardiofasgwlaidd Syr Geraint Evans, yn cefnogi’r ymchwil newydd a chyffrous hwn ac y bydd eto’n tyfu i fod yn ganolfan ragoriaeth ym maes ehangach ymchwil cardiofasgwlaidd, a’r clefydau sy’n gysylltiedig â hynny.”

Rhannu’r stori hon

Mae’r Ysgol yn ganolfan ryngwladol bwysig ar gyfer addysgu ac ymchwil, sy’n ymrwymo i wella iechyd y ddynoliaeth.