Ewch i’r prif gynnwys

Astudio

Rydym yn cynnig amgylchedd ymchwil arbennig gyda chyfleusterau safonol ar gyfer meysydd niwrowyddoniaeth.

Mae ehangder a dyfnder ein harbenigedd yn amrywio’n helaeth ac yn cynnwys dadansoddi mwtaniadau genynnau sengl a nodweddu rhyngweithio seiciatrig a niwrolegol mewn genynnau. Rydym hefyd yn arbenigo mewn creu delweddau o galsiwm rhwng celloedd mewn meingefnau canghennog sengl, yn ogystal â chynnal profion EEG a delweddau MRI swyddogaethol yn ystod tasgau sy’n cofnodi sylw ymysg pobl.

Mae'r wybodaeth isod ar gael yn Saesneg yn unig.

Cyfleoedd PhD

Mae rhaglen ysgoloriaeth PhD Hodge yn hyfforddi ac yn meithrin yr ymchwilwyr ifanc disgleiriaf yn y sgiliau sydd eu hangen i fynd i'r afael â phroblem gymhleth anhwylderau'r ymennydd.

Ar hyn o bryd rydym yn cefnogi ein chwe myfyriwr ymchwil ôl-raddedig cyntaf. Rydym yn bwriadu ariannu saith ysgoloriaeth ymchwil ychwanegol y flwyddyn ar gyfer derbyniadau mis Hydref yn 2024 a 2025.

Mae ceisiadau ar gyfer 2024/25 bellach ar agor. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Mawrth 7 Mai.

Dysgwch fwy am y cyfleoedd astudio cyfredol sydd ar gael i fyfyrwyr PhD.