Ewch i’r prif gynnwys

Cydraddoldeb ac amrywiaeth

Mae’r Ysgol wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb a dathlu amrywiaeth.

Rydym yn cyflawni hyn drwy feithrin amgylchedd cynhwysol a chefnogol ar gyfer myfyrwyr a staff beth bynnag yw eu rhyw, anabledd, tarddiad ethnig, crefydd neu gred, cyfeiriadedd rhywiol, statws priodasol, oedran, neu genedligrwydd, a thrwy hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl arferion a gweithgareddau.

Rydym yn gymuned fywiog ac amrywiol, gyda myfyrwyr a staff o nifer o wledydd a chefndiroedd ethnig. Mae arweinyddiaeth yr ysgol yn adlewyrchu'r amrywiaeth hwn. Mae hil, crefydd, anabledd, rhyw a rhywioldeb oll yn elfennau craidd o'r hyn a addysgwn ac yn feysydd ymchwil gweithredol ar gyfer sawl aelod o'n staff.

Yn rhan o'n hymrwymiad at gydraddoldeb ac amrywiaeth, ac i hybu ein hymdrechion, yn enwedig ym maes cydraddoldeb rhwng dynion a menywod, gwnaethom gais am ddyfarniad Athena SWAN yn mis Tachwedd 2018.

Athena SWAN

Sefydlwyd Siarter Athena SWAN Charter wyn 2005 i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau rhwng y rhywiau, yn enwedig tangynrychiolaeth menywod yn y gwyddorau. Ers hynny, fe’i hymestynnwyd i gwmpasu’r celfyddydau, y dyniaethau a’r gwyddorau cymdeithasol yn ogystal. Mae Prifysgol Caerdydd wedi dal dyfarniad efydd sefydliadol ers 2009. Roedd yr Ysgol yn falch iawn o gael ei gwobr Efydd ei hun ym mis Ebrill 2019.

Am faterion sy’n ymwneud â chydraddoldeb ac amrywiaeth, cysylltwch ag Arweinydd Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yr Ysgol, Dr Stephanie Ward.

Picture of Stephanie Ward

Dr Stephanie Ward

Uwch Ddarlithydd mewn Hanes Modern Cymru

Telephone
+44 29208 75277
Email
WardSJ2@caerdydd.ac.uk