Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwil yn yr Ysgol Deintyddiaeth

Students conducting research in a lab

Mae gan ein diwylliant ymchwil ffyniannus ac arloesol un nod cyffredinol: cynhyrchu ymchwil o safon uchel sy'n cael effaith, sy'n mynd i'r afael â heriau byd-eang allweddol ym meysydd iechyd y geg ac iechyd yn gyffredinol.

Mae ein grwpiau ymchwil amrywiol, sy'n cynnwys academyddion ag enw da am fod yn arweinwyr yn eu priod feysydd, yn gwneud ymchwil arbenigol sydd wedi helpu i wella bywydau pobl ledled Cymru, y DU a thu hwnt.

Rydym yn gweithio mewn partneriaeth agos â rhanddeiliaid a sefydliadau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i nodi cwestiynau pwysig a mynd i’r afael â nhw er mwyn gwella'r byd o'n cwmpas.

Grwpiau

Grwpiau

Mae ein canolfannau a grwpiau yn cynnal ymchwil arbenigol.

Ein heffaith fyd-eang

Ein heffaith fyd-eang

Mae gan ein hymchwil effaith cryf ar draws sawl maes, gwella triniaeth glinigol a gwasanaethau er budd i’r gymdeithas.

Cyhoeddiadau

Cyhoeddiadau

We have published books, articles and journals across all of our themes.

Ein partneriaethau cymunedol

Ein partneriaethau cymunedol

Mae ein cymunedau lleol wrth wraidd popeth a wnawn. Mae ein staff a'n myfyrwyr gwirfoddol yn cymryd rhan mewn prosiectau a arweinir gan y gymuned, sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl a'u teuluoedd.

Yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021, cafodd ein hymchwil ei rhoi yn y 16eg safle (allan o 90) ar gyfer ansawdd. Mae hynny, ynghyd â maint yr ymchwil yn yr Uned hon, yn ein rhoi yn y 4ydd safle (allan o 90) ar gyfer Pŵer Ymchwil (sy’n arwydd o ansawdd a maint ein cyflwyniad).

Caniatâd Moesegol ar gyfer Ymchwil trwy Bwyllgor Moeseg Ymchwil yr Ysgol Deintyddiaeth: Mae ein holl ymchwil sy'n cynnwys cyfranogwyr dynol neu ddeunydd dynol neu ddata dynol yn destun adolygiad moesegol ffurfiol a chymeradwyaeth. Os ydych yn fyfyriwr neu’n aelod o staff presennol, gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am hyn ar Fewnrwyd y Staff a Mewnrwyd y Myfyrwyr.