Ewch i’r prif gynnwys

Telerau defnyddio ar gyfer mynediad Wi-Fi i ymwelwyr

Mae Rhwydwaith di-wifr i Ymwelwyr Prifysgol Caerdydd yn hygyrch i gynrychiolwyr cynhadledd, mynychwyr diwrnod agored ac ymwelwyr tymor-byr heb fynediad i eduroam.

Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn ar eich gliniadur neu ddyfais symudol i gael mynediad i dudalennau gwe gyhoeddus ac ebost ar y we. Efallai ni fydd gwasanaethau a rhaglenni eraill yn gweithio. Nid oes angen i chi ffurfweddu neu gofrestru eich dyfais cyn cysylltu â’r rhwydwaith di-wifr.

Nodwch: Mae defnyddio’r Wi-Fi i ymwelwyr ar eich menter eich hun. Rydym yn argymell yn gryf bod gan eich dyfais yr offer gwrth-firws diweddaraf a bod eich diweddariadau diogelwch yn gyfredol cyn i chi ddefnyddio’r Wi-Fi.

  • Bydd y cyfrifon tymor byr yn cael eu galluogi am gyfnod penodol o'r amser y cawsant eu creu.
  • Bydd cyfrifon segur yn cael eu dileu ar ôl 28 diwrnod.
  • Pan fyddwch yn cael mynediad i’ch cyfrif dros dro bydd sgrin mewngofnodi yn amlinellu’n glir eich hawliau a thelerau defnyddio.
  • Nid oes hawl i ddeiliaid cyfrif dros dro gael mynediad i unrhyw adnoddau electronig lle bod gan Brifysgol Caerdydd drwydded.
  • Mae’r gwasanaeth yn defnyddio cyfeiriad IP Prifysgol Caerdydd.