Ewch i’r prif gynnwys

Adeilad yr Ysbyty Deintyddol

Adeilad yr Ysbyty Deintyddol
Adeilad yr Ysbyty Deintyddol

Parc y Mynydd Bychan
Caerdydd
CF14 4XY

Mae Adeilad yr Ysbyty Deintyddol wedi’i leoli ar Rodfa Academaidd ar Gampws Parc y Mynydd Bychan. Mae’r brif fynedfa yn wastad gyda drysau llithro awtomatig ac mae gan y dderbynfa cownter isel a chylchwifren. Mae’r lifftiau wedi’u lleoli yn y coridor ar y dde. Mae’r lifftiau yn gwasanaethu’r islawr i’r pedwerydd llawr. Mae lifft platfform yn rhoi mynediad rhwng y pedwerydd a’r pumed llawr. Mae yna doiled neillryw hygyrch a lleoedd newid babanod ger y brif fynedfa hygyrch.

Mae’r mynediad ar ochr yr adeilad i Adeilad yr Ysbyty Deintyddol drwy risiau gyda chanllawiau. Mae yna faes parcio tu ôl i Adeilad yr Ysbyty Deintyddol gyda 6 lle parcio hygyrch wedi’i neilltuo yn agos i’r fynedfa.

Parcio

Mae gan Ysbyty Deintyddol y Brifysgol faes parcio ei hun. Fodd bynnag, mae lleoedd yn gyfyngedig ac mae’n rhaid i ymwelwyr a staff dalu i barcio eu cerbydau.

Parcio ar gyfer beiciau

Mae yna 22 lle parcio beic ar gael ar gyfer yr adeilad hwn.