Ewch i’r prif gynnwys

Adeilad Optometreg

Adeilad Optometreg
Adeilad Optometreg

Heol Maendy
Caerdydd
CF24 4LU

Mae'r Adeilad Optometreg wedi'i leoli ar Heol Maendy oddi ar Deras Cathays. Ceir mynediad gwastad i'r adeilad drwy'r drysau awtomatig ac mae'r Clinig Llygaid ar y chwith.

Mae’r clinig llygaid cyhoeddus sydd ar y safle, ar y chwith wrth i chi fynd i mewn i’r adeilad. Gallwch fynd i bob llawr drwy ddefnyddio’r lifft a’r grisiau sy’n syth o’ch blaen.

Ar y llawr gwaelod, ceir toiledau hygyrch ar gyfer dynion a menywod yng nghefn y cyntedd. Yn agos i'r lifft ceir toiled neillryw hygyrch (rhif ystafell 0.59) a thoiled i riant a baban. Ar y llawr cyntaf, ar ochr chwith y lifft, ceir dau doiled neillryw (1.53 a 1.54).

Parcio

Mae meysydd parcio'r Brifysgol yn cael eu monitro gan camerâu adnabod rhifau car awtomatig (ANPR) a swyddogion patrol ar droed.

Rhaid i bob cerbyd modur sydd wedi'i barcio wneud cais i e-drwydded neu e-docyn talu wrth fynd dilys sy'n addas i'w ddefnyddio yn y lleoliad penodol.

Mae rhai meysydd parcio yn cynnig parcio Talu wrth fynd (PAYG) trwy RingGo, mae manylion y meysydd parcio hyn ar ein tudalen Parcio ar gyfer Ymwelwyr.

Mae ymwelwyr sy'n ddeiliaid Bathodyn Glas yn gymwys i barcio mewn man parcio hygyrch neu gyffredinol, yn rhad ac am ddim, ond mae'n ofynnol iddynt ddarparu eu rhif cofrestru i'r Tîm Gwasanaethau Teithio, Cludiant a Pharcio drwy anfon e-bost carparking@caerdydd.ac.uk dim hwyrach na 24 awr ar ôl iddynt gyrraedd.

Ar gyfer llefydd parcio eraill ar y stryd, ewch I caerdydd.gov.uk

Prin yw'r parcio ar y campws

Parcio ar gyfer beiciau

Mae yna 58 o leoedd parcio ar gyfer beiciau.

Cyswllt

Parcio Car

School office enquiries

School of Optometry and Vision Sciences

Apwyntiadau'r clinig llygaid

Postgraduate Optometry